Pro14: Gleision 34-24 Benetton

  • Cyhoeddwyd
Ryan EdwardsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Edwards wedi dod i Gaerdydd o Fryste wedi nifer o anafiadau ymhlith y Gleision

Roedd yna ddigon o gyffro ar Barc yr Arfau nos Sul wrth i'r Gleision wynebu Benetton yn y Pro14.

Wedi 11 munud roedd yna gais (Ian Keatley) i'r Eidalwyr wedi cicio gwallus gan y tîm cartref ac o fewn deg munud cais arall (Irne Herbst) a throsiad llwyddiannus a ymestynnodd sgôr yr ymwelwyr i 12.

Ond o fewn munudau fe wnaeth y Gleision daro'n ôl ac wedi cais gan un Jason (Harries) a throsiad llwyddiannus gan y Jason arall (Tovey) dim ond 5 pwynt oedd yn gwahanu'r ddau dîm (7-12).

Tro'r Eidalwyr oedd hi wedyn i daro nôl ac wedi cyfnod o bwysau fe wnaeth yr wythwr Toa Halafihi groesi dros Benetton a'r sgôr ar yr hanner oedd 7-19.

Roedd y Gleision ar dân yn yr ail hanner ac wedi 46 munud daeth cais gan Garyn Smith a thra bod capten Benetton wedi'i yrru bant am daro'r bêl yn fwriadol daeth cais arall i asgellwr y Gleision Ryan Edwards. Sicrhaodd trosiad Tovey bod y sgôr yn gyfartal (19-19) am gyfnod.

O fewn munudau roedd yna bwynt bonws i Benetton wedi i'r wythwr Toa Halafihi sgorio ei ail gais.

Ond doedd y Gleision ddim am ildio ac wedi ceisiau gan Seb Davies, Jason Tovey a'r eilydd Lewis Jones roedd y Gleision ddeg pwynt ar y blaen 34-24 a dyna oedd y sgôr terfynol.