Cofio Caradog Prichard - awdur y 'nofel Gymraeg orau erioed'
- Cyhoeddwyd
Ar 25 Chwefror, 1980, bu farw'r bardd, nofelydd a newyddiadurwr, Caradog Prichard. Mae'n cael ei gydnabod fel un o lenorion pwysicaf Cymru, gyda'i waith yn cael ei astudio gan blant a phobl ifanc ar hyd a lled Cymru hyd heddiw.
Ond beth yw apêl gwaith Caradog Prichard deugain mlynedd wedi ei farwolaeth? Un sy'n arbenigwr ar waith a bywyd Caradog Prichard yw'r golygydd ac ieithydd, Dr. John Elwyn Hughes.
Un Nos Ola Leuad
Un Nos Ola Leuad yw'r darn o waith mwyaf adnabyddus gan Caradog Prichard ac mae'n parhau i fod yn boblogaidd yn ôl y Dr John Elwyn Hughes.
"Mi gyhoeddwyd hi yn 1961 ac mi gafodd groeso arbennig dros Gymru gyfan. Ond yn Nyffryn Ogwen, roedd yna ryw 'chydig o amheuon 'ydw i yn cael fy mhortreadu yn y nofel?' gan bobl. Ond rhyw chwilfrydedd digon diniwed oedd hwnnw.
"Mi gydiodd y nofel am fod hi'n sôn am yr hyn sy'n gyfarwydd i ni gyd, sef plentyndod. Bachgen bach yn tyfu fyny mewn ardal wledig, ac yn cael rhyw broblemau neilltuol iddo fo - ei fam yn mynd yn orffwyll. Roedd y math yna o draethu yn yr iaith lafar yn apelio, ac roedd yn dipyn o syndod i mi i ddweud y gwir oedd bod hi, er yn nhafodiaith y gogledd, yn apelio i bobl y de."
Mae'r nofel - gafodd ei dyfarnu'r nofel Gymraeg orau erioed - wedi ei chyfieithu i nifer o ieithoedd eraill gan gynnwys Almaeneg, Daneg, Iseldireg, Pwyleg a Sbaeneg. Cafodd y nofel ei throi mewn i ffilm gan Endaf Emlyn yn 1991, ac mae cynlluniau ar y gweill i greu opera yn ogystal.
"Yr apêl mae'n debyg ydi bod yr hyn mae'n ei drafod, bachgen bach yn tyfu a datblygu mewn ardal wledig ar naturioldeb yn dweud.
"Mae'r pethau yna'n ddigon rhwydd i'w trosi mae'n debyg i ieithoedd eraill, ar wahân mae'n debyg i briod-ddulliau, ond mae'n siŵr bod y cyfieithwyr wedi deall bod hi ddim yn bosib cyfieithu priod-ddulliau gair am air, felly o bosib bod nhw wedi defnyddio priod-ddulliau eu hunain.
"Be' sy'n fy synnu i, fydda i'n mynd a phobl, gan gynnwys disgyblion ysgol, i weld ardal Caradog Prichard, rhyw daith mewn bws sy'n para rhyw ddwy awr a hanner... [ac mae'r] to ifanc, ysgolion sy'n astudio Un Nos Ola Leuad, a'r disgyblion, wedi mwynhau'r nofel a chael blas ar weld y llefydd o'r nofel."
Caradog y bardd
Gymaint yw llwyddiant y nofel Un Nos Ola Leuad ei bod hi'n bosib efallai anghofio'r hyn a gyflawnodd Caradog Prichard fel bardd. Dim ond 22 oedd o pan enillodd y Goron yn Eisteddfod Caergybi yn 1927. Enillodd y Goron yn 1928 ac 1929 hefyd - yr unig un i ennill y Goron deirgwaith yn olynol.
"O bosib bod 'na fwy o gynulleidfa i nofel nac sydd i farddoniaeth, nac sydd i farddoniaeth gaeth, nac sydd i'r farddoniaeth fel yr oedd o yn ei sgwennu. Felly mae'r gynulleidfa yn ehangach o lawer i nofel, a nofel mewn tafodiaith a'r ieithwedd yn ddealladwy a chlir - does ddim angen mynd o dan groen dim byd i chwilio am ystyron a chyfeiriadau."
Mae'n anodd dyfalu sut fyddai Caradog wedi gwneud pethau'n wahanol os fysa fo'n fyw ac y llunio ei yrfa heddiw: "Fues i'n trafod rhai agweddau o'i waith o efo fo, nifer o bethau oedden ni'n drafod 'di mynd yn angof gwaethaf modd erbyn hyn.
"Ond mi roedd o'n gymeriad digon cyffredin ar ryw ystyr, ac mae'n siŵr gen i fydda fo ddim wedi newid fawr ddim o'r llwybr y dilynodd o drwy gydol ei fywyd."
Newyddiadruwr yn Llundain
Dechreuodd Caradog ei yrfa fel newyddiadurwr yng Nghaernarfon, cyn gweithio i'r Western Mail yng Nghaerdydd yn 1927. Symudodd i Lundain i weithio i'r News Chronicle a'r Daily Telegraph.
"Mi roedd o'n newyddiadurwr uchel iawn ei barch, gyda'r News Chronicle ac yna'r Telegraph, ac roedd yn cael ei ganmol yn fawr gan benaethiaid y papur. Un enghraifft oedd y cyfnod Porfumo a'r ferch Christine Keeler. Caradog oedd wedi mynd i roi adroddiad mewn achos llys yn erbyn un o'r criw yna, ac fe gafodd ychwanegiad at ei gyflog am ei adroddiad. Roedd o'n cael ei edmygu yn Llundain am y ffordd yr oedd o'n sgwennu.
"Roedd o wedi bwriadu cael gyrfa yn yr Eglwys, ond aeth o am gyfweliad, a dyna ddiwedd ei freuddwyd fel yr Esgob Caradog Prichard - cafodd o ddim ei dderbyn i goleg yr Eglwys.
"Roedd o'n meddwl y byd o'r ficer oedd ganddo ym Methesda - y 'person mwyaf a welodd erioed', yn ddyn mawr tal ond hefyd dyn yr oedd Caradog yn ei edmygu yn fawr. Roedd yn mynd i'r eglwys yn selog pan oedd yn byw efo'i fam ym Methesda, ac roedd wrth ei fodd yn bod yn aelod o'r côr."
Roedd Caradog Prichard yn 75 pan fu farw yn 1980. Mae wedi ei gladdu ym mynwent Eglwys Coetmor, Bethesda.
Hefyd o ddiddordeb