Galw am ymchwiliad i rodd o £10,000 i AS Ceidwadol

  • Cyhoeddwyd
Fay JonesFfynhonnell y llun, Fay Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Fay Jones ei hethol fel aelod seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed yn yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr y llynedd

Mae angen ymchwilio i aelod seneddol Ceidwadol o Gymru oedd wedi trydar am gynnyrch cwmni oedd wedi rhoi rhodd o £10,000 iddi, yn ôl cyn-aelod o Bwyllgor Safonau Tŷ'r Cyffredin.

Cofrestrodd Fay Jones y rhodd gan gwmni dŵr Radnor Hills ar ddechrau mis Ionawr.

Ym mis Chwefror, cyfeiriodd yr Aelod Seneddol newydd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed ar ei chyfrif Facebook a Twitter at gynnyrch y cwmni oedd ar werth yn y Senedd yn San Steffan.

Mae Ms Jones wedi dweud nad oedd unrhyw beth o'i le gyda'i sylwadau.

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Neges Fay Jones ar ei chyfrif Twitter

Dywedodd Radnor Hills bod y cwmni wedi talu'r rhodd yn uniongyrchol i'r gangen Geidwadol leol ac nad oedden nhw wedi "awgrymu iddi hi, neu ddisgwyl" ei bod hi'n trydar am eu cynnyrch.

Cofrestrodd Fay Jones rodd o £10,000 gan y cwmni potelu dŵr a diodydd meddal Radnor Hills sydd wedi'i leoli yn ei hetholaeth ym Mhowys ar 8 Ionawr.

Mae'r gyfraith yn nodi bod ASau yn cael derbyn rhoddion gan 'roddwyr caniataol', gan gynnwys cwmnïau sydd wedi'u cofrestru yn y Deyrnas Unedig.

Negeseuon

Ar 11 Chwefror, fe wnaeth yr AS Ceidwadol gyhoeddi negeseuon ar ei chyfrif Facebook a Twitter gan ddweud ei bod "wrth ei bodd yn gweld bod y Senedd yn stocio dŵr Radnor Hills".

Ychwanegodd ar ei thudalen Facebook: "Mae Radnor Hills yn gwmni gwych wedi'i leoli yn Nhrefyclo sy'n cynhyrchu amrywiaeth o ddiodydd.

"Mae'n cyflogi dros 200 o bobl ac yn rhoi cynaliadwyedd amgylcheddol wrth wraidd ei gynlluniau busnes.

"Roeddwn yn falch iawn o fynd i gwrdd â'r perchennog William Watkins ym mis Tachwedd.

Ychwanegodd: "Mae ei fodel yn fodel i'w ddilyn ac rwy'n benderfynol o gefnogi busnesau sy'n rhoi cymaint yn ôl i'n cymunedau lleol. Da iawn Radnor Hills!"

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Pencadlys cwmni Radnor Hills ym Mhowys

Mae'r cod ymddygiad ar gyfer ASau yn nodi "ni chaiff unrhyw aelod weithredu fel eiriolwr taledig mewn unrhyw achos o'r Tŷ."

Mae paragraff 11 o'r cod yn nodi: "Bwriad y rheolau ar lobïo yw osgoi'r canfyddiad y gall unigolion neu sefydliadau allanol wobrwyo aelodau, trwy daliad neu mewn ffyrdd eraill, gan ddisgwyl y bydd eu gweithredoedd yn y Tŷ o fudd i hynny y tu allan i unigolyn neu sefydliad, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n dod o fewn y diffiniad caeth o eiriolaeth â thâl."

'Agos iawn' at dorri rheol

Dywedodd Elfyn Llwyd, a oedd yn aelod o Bwyllgor Safonau a Breintiau Tŷ'r Cyffredin: "Rwy'n credu ei bod yn agos iawn at dorri'r rheol yn erbyn eiriolaeth â thâl.

"Gan edrych yn benodol ar y cofnod Facebook a oedd ganddi, mae'n amlwg yno bod y ffotograff Facebook hwnnw wedi'i dynnu yn adeilad Tŷ'r Cyffredin. Rwy'n credu y dylid ymchwilio iddo.

"Mae hi'n eiriol dros gwmni yn ei hetholaeth - dim byd o'i le â hynny, mae pawb yn gwneud hynny.

"Ond ar ôl derbyn rhodd o £10,000 gan y cwmni hwnnw ymlaen llaw, i'm ffordd i o feddwl mae hynny'n rhywbeth sydd angen ymchwilio iddo achos ni all hynny fod yn iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Elfyn Llwyd yn fargyfreithiwr ac yn gyn-aelod o bwyllgor safonau Tŷ'r Cyffredin.

Ychwanegodd cyn-AS Plaid Cymru: "Rwy'n credu, wedi gadael heb ei wirio, rwy'n credu y byddai'n gamgymeriad mawr oherwydd gallai hyn fod yn agor y llifddorau."

Dywedodd Ms Jones wrth BBC Cymru: "Nid oes unrhyw beth o'i le fan hyn. Roeddwn yn falch iawn o weld cynnyrch o fusnes yn fy etholaeth yn cael ei werthu yn y Senedd ac roeddwn i eisiau cynnig fy nghefnogaeth."

Datganiad y cwmni

Mewn datganiad, fe ddywedodd perchennog cwmni Radnor Hills, William Watkins: "Gallaf gadarnhau bod fy rhodd wedi ei rhoi i gymdeithas Geidwadol Brycheiniog a Maesyfed nid Fay Jones.

"Gwnaethpwyd hyn cyn i Fay Jones gael ei hethol yn AS. Ni ofynnais iddi, ac nid wyf wedi gofyn iddi hyrwyddo na hysbysebu ein cynnyrch ers hynny.

"Felly nid oedd ei thrydariadau yn rhywbeth yr oeddem wedi ei awgrymu iddi, nac wedi ei ddisgwyl ganddi, ac mae awgrymu unrhyw beth arall yn athrod.

"Mewn gwirionedd dylid ei chanmol am gydnabod a chefnogi cwmnïau yn ei hardal, pwy bynnag ydyn nhw," ychwanegodd Mr Watkins.