Ymddiheuriad 'diamod' Casnewydd dros honiadau o wawdio
- Cyhoeddwyd
Mae Bradford City wedi cwyno'n swyddogol i Gymdeithas Bêl-droed Lloegr bod cefnogwyr Casnewydd wedi'u gwawdio yn Rodney Parade ddydd Sadwrn diwethaf gan grybwyll trychineb a laddodd 56 o bobl.
Cafodd tad rheolwr y Bantams, Stuart McCall, ei anafu'n ddifrifol yn y tân yn stadiwm Valley Parade, Bradford yn 1985.
Yn ôl y clwb, cafodd McCall ei hun ei sarhau'n eiriol hefyd yn ystod y gêm Adran Dau gan gefnogwr "oedd yn gafael mewn baner Leeds United".
Mae CPD Casnewydd wedi ymddiheuro "yn ddiamod" a rhoi addewid i gymryd "camau priodol o fewn y dyddiau nesaf" yn erbyn y sawl oedd yn gyfrifol.
'Diwrnod tywyllaf'
Mewn datganiad ar eu gwefan, dywed Bradford bod cefnogwyr ym mhrif stand Rodney Parade wedi llafarganu geiriau gwawdlyd mewn cysylltiad â thân 1985.
"Rydyn ni gyd wedi ffieiddio'n llwyr gan yr hyn y bu'n rhaid i'n rheolwr a'r clwb ei ddioddef brynhawn Sadwrn," meddai cyfarwyddwr cyfathrebu Bradford, Ryan Sparks.
"Ddylai neb orfod goddef y fath siantio atgas ac rydym wedi datgan ein sefyllfa yn glir i'r Gymdeithas Bêl-droed.
"Heb os, trychineb tân Valley Parade oedd diwrnod tywyllaf hanes balch y clwb dros 117 o flynyddoedd.
"Roedden ni'n syfrdanu o weld trychineb - sydd, hyd heddiw, yn peri loes i gannoedd o bobl - yn cael ei wawdio, a stiwardiaid gerllaw oedd yn ymddangos yn amharod i'w herio.
"Hoffwn, fodd bynnag, ddiolch Casnewydd am eu hymateb dros y 24 awr diwethaf.
"Mae swyddogion Casnewydd wedi rhoi gwybod inni fod Heddlu Gwent nawr yn ymchwilio i'r achos - rhywbeth rydym yn ei groesawu."
Mae Casnewydd wedi cyhoeddi eu hymateb ar eu gwefan, gan "ymddiheuro'n ddiamod i CPD Bradford City ac yn fwy fyth i Stuart McCall am yr ymddygiad annymunol tuag ato ar Rodney Parade ddydd Sadwrn.
"Does dim lle i'r ymddygiad hwn mewn cymdeithas, heb sôn am yn ein clwb pêl-droed."
Ychwanegodd y datganiad bod cadeirydd Casnewydd, Gavin Foxall, wedi trafod gyda swyddogion Bradford officials a siarad yn bersonol gyda Stuart McCall "i gynnig ymddiheuriad ar ran y clwb."
Dywed Heddlu Gwent bod neb wedi dod ag unrhyw beth i'w sylw yn ystod y gêm ddydd Sadwrn ond bod CPD Casnewydd wedi cysylltu â nhw brynhawn Llun.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod am gasglu gwybodaeth ar y cyd â'r clwb a chanfod beth ddigwyddodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2013