Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 Nottingham Forest

  • Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i'r Cymro Will Vaulks wahanu Callum Paterson a Leandro Bacuna ar y cae yn dilyn ffraeFfynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i'r Cymro Will Vaulks wahanu Callum Paterson a Leandro Bacuna ar y cae yn dilyn ffrae

Colli oedd hanes Caerdydd yn y Bencampwriaeth nos Fawrth wrth iddyn nhw gael eu trechu 1-0 yn erbyn Nottingham Forest.

Dyma'r ail golled yn olynol i Gaerdydd ac mae'n golygu bod eu gobeithion o gyrraedd safleoedd ail-gyfle'r Bencampwriaeth yn pylu gydag 11 gêm yn weddill o'r tymor.

Mae'r Adar Gleision yn y 10fed safle erbyn hyn.

Forest ydy'r ail dîm yn unig i ennill yn Stadiwm Dinas Caerdydd y tymor hwn diolch i gôl Tiago Silva.

Cafodd chwaraewr canol cae Portiwgal y bêl diolch i groesiad gan Lewis Grabban, gan sicrhau ei drydedd gôl o'r tymor yn gynnar yn yr ail hanner.

Dyma ydy buddugoliaeth gyntaf Forest mewn pedair gêm gynghrair, gan olygu eu bod yn symud uwchben Fulham i'r trydydd safle yn y Bencampwriaeth.