Gwella diogelwch ffordd ger ysgol gynradd yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Bydd gwaith gwerth £92,000 i wella diogelwch ffordd tu allan i ysgol gynradd yng Ngwynedd yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf.
Daw'r gwaith mewn ymateb i bryderon am ddisgyblion yn cerdded allan i'r ffordd gul wrth Ysgol Tanygrisiau.
Fe fydd y gwelliannau'n cynnwys creu mynedfa newydd i'r ysgol a ramp ar gyfer mynediad i'r anabl.
Dywedodd y cynghorydd sir Annwen Daniels, sydd yn gadeirydd ar fwrdd llywodraethwyr yr ysgol, fod ceir yn parcio ar y stryd yn gwaethygu'r sefyllfa.
"Y broblem ydy fod yr ysgol wedi ei lleoli wrth ffordd gul," meddai'r cynghorydd.
"Mae ceir hefyd yn parcio tu allan i'r ysgol er mwyn nôl disgyblion, sydd yn ychwanegu at y pryder sydd ganddo ni am ddiogelwch y plant yn y fynedfa ar ddiwedd y diwrnod ysgol."
Ychwanegodd ei bod yn falch o waith swyddogion Cyngor Gwynedd am lwyddo i sicrhau arian o gynllun Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith.
"Mae'n newyddion da i'r pentref ac mae'n dod â thawelwch meddwl i staff yr ysgol, llywodraethwyr a rhieni," meddai.