Cytundeb £150m i gwmni peirianneg o Lanelli

  • Cyhoeddwyd
Ffatri Hydro IndustriesFfynhonnell y llun, Hydro Industries
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hydro Industries yn gweithio gyda chwmnïau ar draws y byd sydd yn defnyddio technoleg i drin dŵr

Bydd cwmni peirianneg o Sir Gaerfyrddin yn creu 50 o swyddi ar ôl ennill cytundeb gwerth mwy na £150m i adeiladu ffatri trin dŵr yn yr Aifft.

Y gred yw y bydd Hydro Industries yn Llanelli yn creu 50 o swyddi eraill dramor ac y bydd yna waith i'r cwmni am ddegawd.

Pan fydd y ffatri yn weithredol erbyn 2021 bydd y cwmni yn gallu prosesu 55,000 tunnell o ddŵr gwastraff mewn diwrnod.

Mae disgwyl i'r cytundeb gael ei arwyddo yn Rhif 10 Downing Street.

Yn ôl y Prif Weinidog Boris Johnson mae'n dangos "y gorau o'r diwydiant ym Mhrydain".

Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Wayne Preece y bydd y cytundeb yn eu helpu i elwa ymhellach o'r farchnad ryngwladol sydd werth $14bn y flwyddyn.

"Mae Hydro yn gwmni technoleg dyfeisgar sydd ag awydd dangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau i'r byd. Maen nhw'n helpu i amddiffyn a glanhau ein planed werthfawr tra'n creu swyddi yn nôl adref," meddai Mr Johnson.