David Melding ddim am sefyll eto wedi 20 mlynedd fel AC

  • Cyhoeddwyd
David Melding

Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol blaenllaw wedi dweud y bydd yn camu o'r neilltu yn etholiad 2021.

Mae David Melding, sy'n cynrychioli Canol De Cymru, yn un o'r ychydig aelodau sydd wedi gwasanaethu yn y Senedd yn ddi-dor ers i'r Cynulliad gael ei greu ym 1999.

Dywedodd y cyn-ddirprwy Lywydd nad oedd bod yn wleidydd etholedig yn "swydd gyffredin" ac yn golygu cael "dim amser i ffwrdd".

Ychwanegodd y byddai'n neilltuo mwy o amser i ysgrifennu, a bod yn "ddinesydd-wleidydd creadigol a direidus".

Talodd arweinydd y grŵp Ceidwadol Paul Davies deyrnged i'w gydweithiwr fel "un o hyrwyddwyr democratiaeth a datganoli Cymru".

"Yn ei 21 mlynedd - o'r tymor cyntaf un - fel Aelod Cynulliad, mae wedi dod â mewnwelediad, tact, dadl resymegol, a ffraethineb academydd i waith y Senedd, a thu hwnt," meddai Mr Davies.

"Bydd yn parhau i ysbrydoli myfyrwyr a'r rhai sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth i feddwl yn ehangach am effaith polisïau, a bydd ei ddylanwad a'i etifeddiaeth i'w deimlo yn y blynyddoedd i ddod."