Pro14: Munster 29-10 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Billy HollandFfynhonnell y llun, ©INPHO/Laszlo Geczo
Disgrifiad o’r llun,

Billy Holland yn dathlu cais i Munster

Mae Munster wedi cryfhau eu gafael ar yr ail safle yng Nghynhadledd B Pro14 gyda buddugoliaeth dros y Scarlets ym Mharc Thomond.

Cafodd Sam Lousi gerdyn coch wedi 34 munud, gan roi'r Scarlets ar y droed ôl weddill y gêm, ac fe ddefnyddiodd Munster y fantais i ennill y frwydr yn y pac.

Roedd yna gais yr un i Jack O'Sullivan a Billy Holland cyn i Javan Sebastian ar ran y Scarlets leihau'r bwlch.

Ond fe hyrddiodd Gavin Coombes ei gorff dros y llinell ddwywaith yn yr wyth munud olaf i hawlio pwynt bonws i'r tîm ar eu tomen eu hunain.

Bu'n rhaid i'r Scarlets orffen y gêm gyda 13 dyn yn ar ôl i Tevita Ratuva gael ei anfon i'r gell gosb, cyn i Coombes rwbio halen yn y briw, a hawlio'r pwynt bonws i Munster gyda chwarae olaf y gêm.

Mae'r Scarlets yn aros yn drydydd yn Adran B, wyth pwynt y tu ôl i Munster.