Pro14: Dreigiau 13-10 Cheetahs

  • Cyhoeddwyd
Taine Basham yn ymosodFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Blaen-asgellwr gyda charfan Cymru, Taine Basham, oedd seren y gêm

Brwydrodd y Dreigiau yn ôl i fachu buddugoliaeth ddramatig dros y Cheetahs, er gwaethaf bod ar ei hôl hi o 10-0 ar yr egwyl.

Sam Davies, sy'n llygadu lle yng ngharfan Cymru, gafodd y gic gosb fuddugol ar ôl 85 munud gyda Jared Rosser yn sicrhau unig gais y Dreigiau.

Cafodd Junior Pokomela gais cynnar i'r Cheetahs gyda Tian Schoeman yn sicrhau pwyntiau llawn gyda throsiad, a chic gosb hefyd.

Roedd y cloc wedi pasio 80 munud pan fethodd Davies gic hir at y pyst, dim ond i lwyddo wedyn gyda chic olaf y gêm.

Fe ddaeth hynny â diweddglo cofiadwy i gêm anghofiadwy i raddau helaeth, mewn amodau mwdlyd.