Aur i Elinor Barker ym Mhencampwriaeth Seiclo Trac y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae Elinor Barker wedi cipio medal aur ym Mhencampwriaeth Seiclo Trac y Byd yn Berlin ar ôl ennill y ras bwyntiau.
Daeth i'r brig gyda sgôr o 50 o bwyntiau, gan sicrhau medal aur gyntaf Prydain yn y gystadleuaeth.
Roedd y seiclwr 25 oed o Gaerdydd hefyd yn rhan o'r tîm enillodd medal arian yn y ras gwrso bum niwrnod yn ôl.
Dydy'r ras ddim yn cyfri' at geisio sicrhau lle yn y Gemau Olympaidd ond dywedodd bod hynny'n "amherthnasol.. dydy e ddim yn gwneud i'r teimlad fod yn llai anhygoel".
Ychwanegodd ei bod yn teimlo bod hi'n "eithaf agos" at lefel perfformio gorau ei gyrfa wrth baratoi ar gyfer gemau haf eleni yn Tokyo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2019