Rhagweld mwy o law yn ne Cymru yn ystod y degawd nesaf
- Cyhoeddwyd
Gallai cymoedd de Cymru weld cymaint â 50% yn fwy o law yn ystod y degawd nesaf, yn ôl un arbenigwr tywydd.
Dywedodd Liz Bentley o'r Royal Meteorological Society fod y difrod gafodd ei achosi gan storm Dennis yn "ragflas o'r hyn sydd i ddod".
Ym mis Chwefror roedd y llifogydd mewn llawer man yn drech na'r amddiffynfeydd ac fe fethodd y systemau rhybuddio.
Mae un daearegwr yn credu bod angen arolwg newydd o byllau gwastraff glo er mwyn sicrhau nad yw'r tywydd eithafol wedi eu gwneud yn ansefydlog.
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae rhaglen Wales Investigates y BBC wedi ymweld â nifer o'r ardaloedd a ddioddefodd ac wedi siarad ag arbenigwyr tywydd a daeareg - maen nhw'n ofni y bydd y sefyllfa yn gwaethygu.
Pa mor aml?
Mae'r Athro Liz Bentley yn brif weithredwr y Royal Meteorological Society ac y mae ei neges yn glir sef byddwch yn barod am fwy o stormydd.
Mae'n dweud bod hinsawdd cynhesach yn achosi mwy o law, stormydd mwy ac - yn arbennig yng nghymoedd serth de Cymru - mwy o lifogydd difrifol.
Dywedodd: "Mewn dyddiau a fu fe fuasech yn cael un storm fawr mewn canrif, un mewn cenhedlaeth ond maen nhw bellach yn digwydd bob ryw bum mlynedd ac maen nhw siŵr o gynyddu yn ystod y blynyddoedd nesaf."
Gan gyfeirio at yr adolygiad gwrthsefyll llifogydd, dolen allanol a gyhoeddwyd bedair blynedd yn ôl, dywedodd bod llywodraethau wedi cael rhybudd i baratoi am y gwaethaf - a bod disgwyl llawer mwy o law trwm eithafol yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad yn rhagweld y bydd rhwng 20% a 30% yn fwy o law na phedair blynedd yn ôl ond mae'r Athro Bentley yn credu y bydd cymoedd de Cymru yn cael 10% neu 20% yn ychwanegol am resymau topograffig - gallai hynny felly fod yn 50% mwy o law yn ystod y degawd nesaf.
Digon o rybudd?
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru y byddan nhw yn adolygu eu system rybuddio wedi i rai beidio cael gwybodaeth am y llifogydd mewn pryd ym mis Chwefror,
Un o'r rheini oedd Susan Fraser sy'n byw yn Nantgarw - mae ei chwaer a'i mam yn byw ar yr un stryd.
Er bod hi wedi cofrestru i dderbyn rhybuddion doedd hi'n gwybod dim am y peryg diweddaraf nes i'w mam ei ffonio.
"Wedi i mi droi'r golau llofft ymlaen ac yna edrych lawr gwelais fy soffa yn nofio ar waelod y grisiau," meddai.
Dywedodd Andrew Morgan, arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, nad oedd y system rybuddio wedi gweithio fel y dylai fod wedi gwneud.
"Os nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn newid eu dull o rybuddio mi wnawn ni rywbeth ein hunain.
"Mewn rhai achosion y tro hwn gallai rhai pobl fod wedi colli eu bywydau," meddai.
Mewn datganiad dywed Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'n amlwg fod rhai rhybuddion wedi'u hanfon yn hwyrach na fydden ni wedi'i ddymuno."
Cadarnhaodd Andy Wall, y rheolwr risg llifogydd, y byddai adolygiad yn digwydd a dywedodd bod 89 rhybudd a 100,000 neges destun a llais wedi'u hanfon yn ystod y storm.
Ychwanegodd Mr Wall y byddai'r adolygiad yn holi pam bod rhai pobl wedi cael rhybudd ac eraill ddim.
Dywedodd: "Byddwn yn edrych ar pryd yr anfonon ni'r negeseuon rhybudd ac yn siarad â phobl er mwyn canfod pryd yn union na'th y llifogydd ddigwydd.
"Yr unig beth allai ddweud mae pethau'n gallu digwydd yn gloi yng nghymoedd y De."
Tirlithriadau?
Yn ogystal â llifogydd fe achosodd Storm Dennis nifer o dirlithriadau.
Yn Tylorstown, Rhondda, fe wnaeth 30,000 tunnell o wastraff glofaol a phridd lithro i lawr y llethrau i nant ac fe achosodd hynny risg llifogydd.
Dywed y daearegwr Peter Brabham a gafodd ei eni yn yr ardal ei fod yn credu y gallai'r glaw trwm fod wedi effeithio ar y glofeydd a bod angen edrych arnynt eto.
"Wedi Aberfan mae llawer o waith wedi cael ei wneud ar y gweithfeydd glo ond rwy'n credu bod angen edrych eto ar eu sefydlogrwydd wedi'r glaw trwm - roedden nhw'n sefydlog 10 mlynedd yn ôl ond efallai nad ydyn nhw bellach."
Yn 1981 cafodd arolwg tirlithriad ei wneud ar holl feysydd glo de Cymru gan Arolwg Daearegol Prydain.
Mae Dr Brabham yn dweud ei bod yn amser i gael arolwg llawn arall fel bod awdurdodau yn cael rhybudd am dirlithriadau posib cyn iddyn nhw ddigwydd.
Ar hyn o bryd mae llywodraethau Cymru a San Steffan yn ystyried sut mae taclo llifogydd a phwy ddylai dalu.
Mae'r Gweinidog Amgylchedd Lesley Griffiths wedi wfftio honiadau nad oedd eu hadran wedi gwneud digon.
Wrth siarad â'r rhaglen Wales Investigates dywedodd: "Ry'n wedi gwario lot fawr o arian ac wedi blaenoriaethu'r gwaith.
"Byddwn yn parhai i ariannu cynlluniau lliniaru llifogydd ac yn sicrhau bod y cynlluniau yn cael eu cyflwyno mor fuan â phosib.
"Bydd ein strategaeth yn barod erbyn y gwanwyn a wedyn byddwn yn gallu gwneud yn siŵr bod ein buddsoddiad yn y lle iawn."
Bydd modd gweld Wales Investigates: Flooded Out of my Homear Ddydd Llun 2 Mawrth am 20:30ar BBC 1Cymru ac wedi hynny ar BBC iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020