Cwyno am ddargyfeiriad 60 milltir o amgylch Machynlleth

  • Cyhoeddwyd
Machynlleth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffordd ynghau o ffin Ceredigion-Powys at orsaf reilffordd Machynlleth

Mae'r A487 ym Mhowys ar gau am chwe noson yr wythnos hon ar gyfer gwaith ffordd, gan arwain at ddargyfeiriadau hir o amgylch Machynlleth.

Mae disgwyl i'r ffordd gau o ffin Ceredigion-Powys at orsaf reilffordd Machynlleth rhwng 19:30 a 06:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eto ar 9 Mawrth.

Bydd y ffordd ar agor rhwng 10 a 13 Mawrth, ond gyda chyfyngiadau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod rhaid cael "dargyfeiriadau hir" oherwydd nad oes "unrhyw ddewisiadau amgen addas".

'Dim byd mwy rhwystredig'

Mae cau'r ffordd yn golygu y bydd y daith o Fachynlleth i Aberystwyth, sydd fel arfer tua 18 milltir, yn 60 milltir, trwy Gaersws a Llangurig.

Mae pobl Machynlleth yn flin bod y dargyfeiriad mor hir a bod effaith ar bobl sy'n gweithio mewn swyddi gyda'r nos.

Dywedodd y Cynghorydd Tref, Jim Honeybill: "Dwi'n gallu deall yn iawn sut mae pobl yn teimlo, ond bydd ffordd newydd gyda ni ar y diwedd.

"Does dim byd mwy rhwystredig na gwaith ffyrdd. Mae hwn yn waith mawr, sy'n rhan o gynllun y bont newydd, felly'n waith pwysig i'w gwblhau."

Yn ogystal â chau yr A487, bydd yr A489 ar gau ger cyffordd Dolguog ar 16 a 17 Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Jim Honeybill bod angen cau'r ffordd i gynnal "gwaith pwysig"

Dywedodd Heulwen Davies, sy'n byw wrth y gwaith ffordd, bod y "diffyg cyfathrebu efo'r bobl leol yn warthus".

"Heblaw am Facebook fyswn i'n gwybod dim byd am y peth a dwi'n byw yn y pentref sy'n cael ei dorri ffwrdd i'r ddau gyfeiriad," meddai.

"Dydy wythnos o rybudd ddim yn ddigon da. Dydy'r ffaith eu bod nhw'n dweud mai'r unig ffordd rownd ydy taith o 130 milltir o daith yn sicr ddim yn ddigon da.

"Mae fel peten nhw'n trin ni fel trigolion israddol - byddai hyn ddim yn digwydd yn ein trefi mawr a'n dinasoedd."

'Dim dewis'

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod y "dargyfeiriad yn hir am nad oes dewis amgen addas" ar y rhwydwaith ffyrdd.

"Fe gafodd yr amserlen ei phenodi yn ddibynnol ar argaeledd contractwyr a gwaith ar ffyrdd eraill," meddai llefarydd.

"Mae osgoi'r dargyfeiriad yn anodd oherwydd natur y gwaith.

"Rydyn ni'n ddiolchgar i fusnesau a thrigolion lleol am fod yn amyneddgar."