Hallam Amos allan am weddill y tymor ag anaf i'w ben-glin

  • Cyhoeddwyd
Hallam AmosFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Fe fydd asgellwr Cymru, Hallam Amos yn methu gweddill y Chwe Gwlad yn dilyn anaf i'w ben-glin.

Cafodd Amos yr anaf wrth chwarae i'r Gleision yn erbyn Benetton yn y Pro14 y penwythnos diwethaf.

Fe fydd nawr yn cael llawdriniaeth ac mae disgwyl iddo fethu gweddill y tymor.

Dydy Undeb Rygbi Cymru ddim wedi cyhoeddi eto a fydd chwaraewr arall yn cael ei alw i garfan Cymru yn absenoldeb Amos.

Mae'r maswr Sam Davies eisoes yn ymarfer gyda'r garfan yn dilyn amheuon dros ffitrwydd Dan Biggar cyn iddyn nhw herio Lloegr ddydd Sadwrn.​