Dynes, 67, yn y llys ar gyhuddiad o ddwyn tabledi £1.80

  • Cyhoeddwyd
Myfanwy Elliot

Mae dynes o Fachynlleth wedi ymddangos yn llys y goron wedi'i chyhuddo o ddwyn paced o dabledi paracetamol o siop.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon honiadau bod Myfanwy Elliot wedi dwyn paced o Panadol Advanced gwerth £1.80 o siop Co-op ym Machynlleth ar 18 Hydref llynedd.

Ond roedd Mrs Elliot, 67, yn gwadu hynny gan ddweud fod y paced eisoes yn ei bag hi pan aeth hi mewn i'r siop.

Dywedodd mai camddealltwriaeth ieithyddol oedd ar fai, a hynny wrth iddi geisio disgrifio cynnwys ei bag yn Gymraeg.

Fe wnaeth Mrs Elliot ddewis cael yr achos wedi'i glywed yn Llys y Goron - rhywbeth anarferol ar gyfer achos o'r fath, yn ôl y barnwr.

Clywodd y llys fod Mrs Elliot wedi bod yn cael problem yn sganio ei nwyddau siopa ar y til hunanwasanaeth, a bod aelod o staff, Jodie Hancock, wedi dod draw i'w helpu.

Sylweddolodd Ms Hancock fod bandiau gwallt a thabledi yn y bag er nad oedden nhw wedi cael eu sganio.

Dywedodd Mrs Elliot wrthi mai camgymeriad oedd hynny, ac fe gafodd y bandiau gwallt eu hailsganio.

'Spar' neu 'sbâr'?

Ond wrth gyfeirio at y tabledi, dywedodd Ms Hancock: "Cyn i mi allu dweud unrhyw beth, fe ddywedodd hi eu bod o Spar.

"Gorffennodd Mrs Elliot ei siopa a gadael, ond wedyn fe wnaeth Ms Hancock grybwyll y digwyddiad i aelod arall o staff ac fe aethon nhw i edrych ar luniau'r camerâu cylch cyfyng."

Roedd rheiny'n dangos Mrs Elliot gyda phaced glas o dabledi yn ei llaw, ond yna doedden nhw "ddim yno".

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Mrs Elliot ei bod hi wedi rhoi'r paced yn ôl ar y silff, a hynny am fod ganddi baced eisoes yn ei bag.

Dywedodd mai camddealltwriaeth ieithyddol oedd ar fai, gan ei bod hi wedi disgrifio'r paced yn ei bag yn Gymraeg fel rhai "sbâr".

"Mae'r panadol yna wedi bod yn fy mag ers wyddwn i ddim pryd," meddai. "Fy rhai sbâr i oedden nhw, o adref."

Mae'r achos yn parhau.