Cau'r M4 ger Casnewydd ar ôl i lori fynd ar dân
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid cau'r M4 i'r ddau gyfeiriad yn ardal Casnewydd ddydd Mercher ar ôl i lori fynd ar dân.
Mae tagfeydd hyd at 13 milltir o hyd yn parhau yn dilyn y digwyddiad ar y lôn ddwyreiniol ger cyffordd 26 am 15:53.
Cafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad.
Fe gafodd y lôn orllewinol yn ardal Malpas ei hailagor tua 17:15 ond mae yna oedi o hyd yn ymestyn yn ôl tuag at Bont Tywysog Cymru.
Mae Heddlu Gwent yn galw ar yrwyr i osgoi'r ardal, tra bod y gwasanaethau brys yn rheoli'r sefyllfa.
Cafodd y tân ei ddiffodd am 17:13, gyda chriwiau o Gwmbrân, Malpas, Maendy, Aberbargoed, New Inn a Merthyr yn cynorthwyo.
Yn gynharach yn y dydd bu'n rhaid cau ffordd ddeuol yr A48 i'r de o'r ddinas ar ôl damwain yno - ond mae'r ffordd bellach wedi ailagor.