Ehangu cynllun addysg ysgolion gwledig drwy gyswllt fideo

  • Cyhoeddwyd
Gwers
Disgrifiad o’r llun,

Enghraifft o wers yn cael ei darparu drwy gyswllt fideo

Mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu cynllun sy'n gwneud defnydd o gysylltiad fideo rhwng ysgolion i gefnogi addysg mewn ardaloedd gwledig.

Bellach mae cynllun E-sgol ar gael i ddisgyblion ym Mhowys a Sir Gaerfyrddin, wedi i'r cynllun gael ei ddefnyddio yng Ngheredigion ers 2018.

Nod prosiect E-sgol yw cysylltu disgyblion ac ysgolion mewn mannau anghysbell fel bod ganddyn nhw ddewis ehangach o bynciau.

Mae'r prosiect yn seiliedig ar gynllun E-Sgoil, dolen allanol a gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth yr Alban yn yr Ynysoedd Heledd Allanol (Outer Hebrides).

'Amheuon yn diflannu'

Un sydd wedi gweld manteision y cynllun ydy Dr Lewis Pryce, athro mathemateg yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin, Powys.

Dywedodd Dr Pryce: "Fe ddiflannodd unrhyw amheuon oedd gen i am E-sgol yn sydyn wedi i mi ddechrau dysgu.

"Mae'r broses o ddysgu nifer o ysgolion wedi bod yn un llyfn ac mae'r disgyblion wedi mwynhau'r gwersi ac maen nhw wedi bod yn bleser i'w dysgu.

"Dydw i ddim yn gweld unrhyw wahaniaeth rhwng fy ngwersi drwy gyswllt fideo a'r gwersi traddodiadol."

Disgrifiad o’r llun,

Gwers yn Llanbed ar gyswllt fideo

I nodi ehangu'r ddarpariaeth o E-sgol i Bowys a Cheredigion fe fydd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Llanfyllin ddydd Iau.

Dywedodd y Gweinidog: "Rwy'n teimlo'n angerddol y dylai holl ddisgyblion Cymru gael yr un cyfleoedd dysgu, mewn ysgol yng nghanol dinas neu yng nghefn gwlad.

"Mae E-sgol yn defnyddio technoleg mewn ffordd newydd sydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fyfyrwyr mewn ardaloedd gwledig gan gynyddu'r dewis o bynciau sydd ar gael iddyn nhw gan ehangu eu dewis gyrfaoedd ar ôl ysgol.

"Ynghyd â'n buddsoddiad drwy ein cynllun ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion cefn gwlad, mae E-sgol yn enghraifft arall o sut yr ydym yn sicrhau tegwch i ddisgyblion, ble bynnag maen nhw'n byw."

Yr ysgolion sydd yn rhan o'r cynllun hyd yn hyn yw ysgolion Bro Pedr, Bro Teifi, Aberaeron, Aberteifi, Penweddig, Penglais, Bro Myrddin, Maes y Gwendraeth, Llanidloes, Caereinion, Llanfyllin, Y Drenewydd, Y Trallwng, Bro Hyddgen, Calon Cymru (Llanfair ym Muallt a Llandrindod), Gwernyfed, Crughywel, Aberhonddu a Maesydderwen.