Dynes yn ddieuog o ddwyn paracetamol o siop ym Machynlleth

  • Cyhoeddwyd
Myfanwy Elliot

Mae dynes o Fachynlleth wedi cael ei chanfod yn ddieuog o ddwyn paced o dabledi paracetamol o siop.

Fe gymerodd y rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon ychydig dros bedair awr i benderfynu nad oedd Myfanwy Elliot wedi dwyn o siop Co-op ym Machynlleth.

Roedd Mrs Elliot, sy'n cael ei hadnabod fel Noella, wedi gwadu cymryd paced o Panadol Advanced gwerth £1.80 ar 18 Hydref llynedd.

Dywedodd mai camddealltwriaeth ieithyddol oedd ar fai, a hynny wrth iddi geisio disgrifio cynnwys ei bag yn Gymraeg i aelod o staff.

'Spar' neu 'sbâr'?

Clywodd y llys fod Mrs Elliot, 67, wedi bod yn cael problem yn sganio ei nwyddau siopa ar y til hunanwasanaeth, a bod aelod o staff, Jodie Hancock, wedi dod draw i'w helpu.

Sylweddolodd Ms Hancock fod bandiau gwallt a thabledi yn y bag oedd heb gael eu sganio, ac fe gafodd y bandiau gwallt eu hailsganio.

Ond wrth holi Mrs Elliot am y tabledi, dywedodd Ms Hancock fod y cwsmer wedi dweud wrthi eu bod yn "dod o Spar".

Pan edrychodd Ms Hancock ar luniau'r camerâu cylch cyfyng yn ddiweddarach, gwelwyd bod gan Mrs Elliot baced glas o dabledi yn ei llaw ar un adeg ond yna doedden nhw "ddim yno".

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Mrs Elliot ei bod hi wedi rhoi'r paced yn ôl ar y silff, a hynny am fod ganddi baced eisoes yn ei bag.

Dywedodd mai camddealltwriaeth ieithyddol oedd ar fai, gan ei bod hi wedi disgrifio'r paced yn ei bag yn Gymraeg fel rhai "sbâr".

"Mae'r panadol yna wedi bod yn fy mag ers wyddwn i ddim pryd," meddai. "Fy rhai sbâr i oedden nhw, o adref."