Dros 100 yn protestio i atal torri coed yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
coed
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y datblygwyr ganiatad i gau'r ffordd er mwyn torri'r ddwy goeden fawr

Mae dros 100 o brotestwyr wedi ceisio atal datblygwyr rhag torri dwy goeden fawr yng Nghaerdydd.

Roedd protestwyr Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) ymhlith y gwrthdystwyr fu'n ceisio atal y contractwyr rhag llifio'r coed y tu allan i Dŷ Suffolk yn Nhreganna.

Fe ddringodd un o'r protestwyr i un o'r coed wrth i weithwyr lifio'r goeden arall gerllaw.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddringodd un o'r protestwyr er mwyn ceisio achub y goeden

Cafodd Ffordd Romilly ei chau brynhawn Sul er mwyn i'r gwaith ddigwydd, ac fe gafodd yr heddlu eu galw yno i gadw golwg ar y sefyllfa.

Mae cwmni Quin & Co yn gobeithio adnewyddu Tŷ Suffolk ac adeiladu nifer o dai a fflatiau yno.

Yn ôl y datblygwyr, cafodd y penderfyniad i dorri'r coed ei wneud am resymau diogelwch, gan fod un o'r muriau wrth ymyl y coed mewn cyflwr peryglus.

Ond yn ôl un o'r protestwyr Nerys Lloyd-Pierce, mae'r cyngor yn caniatáu i ormod o goed gael eu torri yn y brifddinas.

"Coed yw ein hamddiffyniad rhag effeithiau newid hinsawdd, maen nhw'n amsugno C02," meddai.