Lansio platfform digidol creadigol ap AM

  • Cyhoeddwyd
ap AM
Disgrifiad o’r llun,

Bydd modd darllen am gerddoriaeth, ffilm, llenyddiaeth, celf a theatr ar yr ap

Bydd platfform digidol dwyieithog newydd yn cyhoeddi 75 sianel i arddangos "y gorau o'r cyfryngau creadigol yng Nghymru" ddydd Llun.

Gobaith ap AM, dolen allanol yw rhoi llwyfan "i rai o'r elfennau sy'n cyfrannu at fwrlwm creadigol Cymru, ac adlewyrchu'r hyn sy'n cael ei greu ar hyd a lled y wlad".

Bydd y sianeli yn cynnwys cerddoriaeth, ffilm, llenyddiaeth, celf a theatr ac mae'r cynnwys wedi ei rannu i bump adran - Gwrando, Gwylio, Geiriau, Gwyliau a Gigs.

PYST mewn partneriaeth â Tramshed Tech sy'n gyfrifol am yr ap a fydd ar gael ar y we ac fel ap ar y ffôn symudol.

Ffilm Manics

Yn ôl yr actor Rhys Ifans "mae'n wych gweld platfform fel AM yn rhoi gofod amgen i grewyr Cymru ymgynnull, rhannu a chydweithio".

Ffilm newydd y Manics Street Preachers fydd y digwyddiad mawr cyntaf i'w weld ar yr ap ac mae'r rhai sy'n gyfrifol am y gwasanaeth newydd yn falch bod cyfarwyddwr y ffilm wedi dewis AM - yn hytrach na phlatfformau fel Netflix ac Amazon - fel y platfform ar gyfer dangosiad cyntaf y ffilm ar y we.

Yn dilyn taith ddiweddar yn y sinemâu bydd ffilm Be Pure, Be Vigilant, Behave i'w gweld ar AM o ddydd Gwener, 13 Mawrth ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd ffilmy Manics i'w gweld o ganol mis Mawrth ymlaen

Dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST: "Dyhead AM yw bod yn gyrchfan ddyddiol i bawb fynd i weld creadigrwydd Cymru gyfan. Ffilmiau newydd, cerddoriaeth newydd, celf newydd, llên newydd, syniadau newydd, ysbrydoliaeth newydd - gofod newydd fydd gobeithio yn adlewyrchu hyder creadigol Cymru a gofod y gall pobol ymgolli ynddo am oriau.

"Ein nod yw adeiladu cymuned gynhwysol, ddemocrataidd fydd ar agor i bawb - yn arbennig pobl ifanc."

Ychwanegodd: "Os ydych chi yn berson 16 oed mewn unrhyw ran o Gymru mae'n debygol eich bod yn ffrydio artistiaid Cymreig fel Tri Hŵr Doeth neu My Name Is Ian ar Spotify ac yn treulio oriau yn edrych ar Netflix a YouTube bob dydd.

"Mae AM yn cynnig cyfle i'r holl fydoedd yma gydfyw a chreu cynulleidfa newydd ac mae hynny gobeithio yn atyniadol i bawb."

Ffynhonnell y llun, AM
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 75 sianel ar ap AM

Ymhlith yr hyn y gellir ei weld ar yr ap mae digwyddiadau Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, cynnwys y cyfnodolyn O'r Pedwar Gwynt a digwyddiadau Focus Wales - gŵyl flynyddol sy'n cael ei chynnal mewn amrywiol leoliadau yn Wrecsam bob gwanwyn.

Un sianel fydd yn fyw ar AM ddydd Llun yw Iris Prize Festival, dolen allanol, gŵyl ffilm LGBT flynyddol yng Nghaerdydd.

Dywed Berwyn Rowlands, cyfarwyddwr yr ŵyl, ei fod yn edrych ymlaen i ddefnyddio'r platfform i rannu cynnwys unigryw fel cyfweliadau, rhagflasau a chlipiau 'tu ôl i'r llen'.

"Rydym yn gyson edrych am ffyrdd i ehangu'r gynulleidfa ar gyfer straeon LGBT," meddai.

"O'r eiliad y clywsom am AM roeddem yn gyffrous ac yn sicr bod rhaid i ni gael presenoldeb ar y platfform. Rydym yn edrych ymlaen o ganlyniad, i gyflwyno cynulleidfa newydd i ffilmiau byrion Iris drwy AM."

Ffynhonnell y llun, AM

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon. Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: "Rydym wastad wedi bod yn genedl o storïwyr... efallai bod y dechnoleg wedi newid ond yr un yw'r nod: defnyddio ein sgiliau creadigol er mwyn ymwneud â phobl, rhannu syniadau, difyrru a hysbysu.

"Bydd AM yn dod yn llwyfan i dalent creadigol Cymru ac rydym yn hynod o falch o allu cefnogi ei ddatblygiad."

Mae'r ap wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac wedi derbyn nawdd gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.