Canwr y Manics i arwain cyngerdd cymorth llifogydd
- Cyhoeddwyd

Bydd James Dean Bradfield yn canu tair cân ac yn cynnig ei gitâr mewn ocsiwn
Bydd prif leisydd y Manic Street Preachers, James Dean Bradfield, ymhlith degau o berfformwyr mewn digwyddiad deuddydd yn Y Rhondda fis nesaf i godi arian ar gyfer dioddefwyr llifogydd Storm Dennis.
Bydd Valley Aid yn cael ei gynnal yn Y Ffatri Bop yn Y Porth ar 13 a 14 Mawrth.
Bydd yr arian o'r cyngerdd cyntaf, ar y nos Wener, yn codi arian i helpu ailagor Clwb Y Bont ym Mhontypridd.
Artistiaid Cymraeg - gan gynnwys Huw Chiswell a Bryn Fôn - fydd yn cymryd rhan yn y gig yna.
Mae'r gantores leol Amy Wadge, a enillodd wobr Grammy am gyfansoddi un o ganeuon Ed Sheeran, eisoes wedi cadarnau y bydd yn cymryd rhan ar y nos Sadwrn.

Mae Clwb y Bont wedi sefydlu tudalen ariannu torfol i atgyweirio'r adeilad wedi'r llifogydd
Dywedodd un o drefnwyr y digwyddiad, Emyr Afan, wrth BBC Cymru bod rhagor o fanylion heb eu cadarnhau eto ond bod y penderfyniad i gymryd rhan yn "no-brainer" i James Dean Bradfield.
Cytunodd yn syth i ganu tair cân ar ddechrau'r cyngerdd ar y nos Sadwrn.
"Beth o'n i ddim yn disgwyl oedd [cynnig y canwr] 'Wnai roi'r gitâr rydw i'n ei chwarae ar y noson mewn ocsiwn' a nes i feddwl, 'wow'," meddai Mr Afan.
"Noson Gymraeg ydy'r nos Wener gyda Huw Chiswell a Bryn Fôn a bydd llawer o enwau eraill yn cael eu hychwanegu wythnos yma.
"Mae hynny ar gyfer Clwb y Bont, a gafodd ei effeithio'n ddrwg iawn gan y llifogydd."

Dywed Huw Chiswell y bydd yn fraint cael perfformio yn y Ffatri Bop ar nos Wener, 13 Mawrth
Dywedodd Huw Chiswell: "Mae gen i atgofion braf o ganu a chymdeithasu yng Nghlwb Y Bont a derbyn croeso cynnes y cymoedd pob tro.
"Mae'n ganolfan mor bwysig i ddilwylliant Cymraeg yr ardal a braint yw cael y cyfle, yn dilyn y difrod diweddar, i gyfrannu at ei hadfer."
Cafodd miloedd o bobl eu heffeithio wedi i Storm Dennis daro'r ardal ganol Chwefror.
Mae Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad Llafur Cymru wedi galw ar y Canghellor, Rishi Sunak, am grant o £30m at waith atygyweirio ar draws Rhondda Cynon Taf.

Mae yna amheuaeth y bydd angen degau o filiynau o bunnau i ymdopi â'r llifogydd mewn llefydd fel Nantgarw
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi neilltuo swm cychwynnol o £10m ar gyfer helpu cymunedau ymdopi ag effeithiau'r llifogydd, ac mae sawl tudalen ariannu torfol wedi codi miloedd o bunnau.
Mae dwy o'r tudalennau hynny, gan yr actor Michael Sheen ac AS Pontypridd, Alex Davies-Jones wedi codi dros £80,000 rhyngddyn nhw, ac mae Clwb y Bont ei hun wedi dechrau apêl i godi £10,000, dolen allanol.
Dywed y clwb fel rhan o'r apêl bod y prif far saith troedfedd o dan ddŵr wedi'r "llifogydd gwaethaf yn ei hanes" a bod angen help "i ailosod dodrefn, ffitiadau ac offer trydanol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2020