Bachgen o Lambed yn bencampwr naid uchel Prydain
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 14 oed o Lanbedr Pont Steffan yn dathlu dod yn bencampwr Prydain yn y naid uchel.
Roedd Osian Roberts, sy'n ddisgybl blwyddyn 9 yn Ysgol Bro Pedr, yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Athletau Prydain yn Sheffield pan enillodd y naid uchel i fechgyn dan 15 oed, gan neidio 1.80m.
Llwyddodd Osian hefyd i gyrraedd rownd derfynol ras dros y clwydi 60m, gan orffen yn y seithfed safle.
Fe ddechreuodd diddordeb Osian yn y gamp pan oedd yn mynd i drac Clwb Athletau Harriers Caerfyrddin i wylio ei chwaer, Beca, yn ymarfer.
"O'n i'n 12 pan ddechreues i - nes i ymuno mewn 'da grŵp o'dd Beca yn hyfforddi 'da a dod mlan fel 'na," meddai Osian.
"Nes i ddechre'r clwydi a high jump, a nes i licio neud e."
Ym mis Chwefror fe gipiodd Osian record y bencampwriaeth gyda'i naid uchaf erioed o 1.88m ym Mhencampwriaeth Cymru yng Nghaerdydd.
Fe benderfynodd gofrestru ei hun ar gyfer Pencampwriaeth Prydain yn Sheffield ar Chwefror 22, a chipio'r wobr gyntaf y prynhawn hwnnw hefyd.
"Nes i gyrraedd 1.80m yn Sheffield, ond wedyn 'naethon nhw fynd â'r bar lan o 1.80m syth lan i 1.90m, a nes i bron a neud y 1.90m ar y last attempt, ond jest bwrw fe nes i," meddai Osian.
"Fi 'di cael lot o bobl yn llongyfarch fi, ac mae 'di bod yn neis iawn."
Bydd y tymor athletau newydd yn dechrau ym mis Mai, a gobaith Osian yw y bydd yn gallu cystadlu'n amlach y tymor nesaf.
Mae Osian yn dilyn ôl troed ei chwaer, Beca, sydd wedi cynrychioli Cymru eisoes, gan fod yn gapten ar dîm Cymdeithas Athletau Ysgolion Cymru yng nghystadleuaeth Dan Do Ysgolion Prydain yn Yr Alban ym mis Tachwedd.
"Ni'n dau'n rhan o glwb Carmarthen Harriers ond ni hefyd yn ymarfer ym Mhrifysgol Met Caerdydd yn wythnosol os allwn ni," meddai Beca, sydd ar hyn o bryd yn gwella o anaf.
"Dwi wedi cael fy ngalw lan i training team Commonwealth Cymru felly bydde hynny'n beth eitha' da i anelu ato fe."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2020