Rhun Williams yn ymddeol o rygbi yn 22 oed

  • Cyhoeddwyd
rhun williamsFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Fe anafodd Rhun Williams ei hun wrth wneud tacl i arbed cais ym mis Chwefror 2018

Mae cefnwr Gleision Caerdydd, Rhun Williams wedi gorfod ymddeol o rygbi ag yntau ond yn 22 oed.

Dydy Williams ddim wedi llwyddo i wella o anaf i'w wddf a gafodd mewn gêm yn erbyn Zebre ddwy flynedd yn ôl.

Er iddo gael triniaeth gyda'r rhanbarth, mae cyn-chwaraewr dan-20 Cymru wedi cael gwybod bod yr anaf yn un fydd yn dod â'i yrfa i ben.

"Dwi wedi gwneud popeth o fewn fy ngallu i ddod 'nôl ond yn anffodus dyna gyngor yr arbenigwyr," meddai Williams, sy'n dod o Lanrug ger Caernarfon yn wreiddiol.

Fe wnaeth y cefnwr ddioddef niwed i'w nerfau wrth iddo wneud tacl yn y gêm ym mis Chwefror 2018.

Un o sêr y Gamp Lawn

Roedd wedi dechrau ei yrfa rygbi gyda Chaernarfon cyn ymuno ag academi'r Gleision yn 2016, ac aeth ymlaen i chwarae 28 gwaith dros y rhanbarth.

Roedd hefyd yn un o sêr tîm dan-20 Cymru enillodd y Gamp Lawn yn 2016, ac fe gafodd ei alw i'r garfan lawn flwyddyn yn ddiweddarach ar ôl creu argraff gyda'i ranbarth.

"Rydw i'n siomedig o gael y newyddion na fydda i'n gallu dychwelyd i chwarae rygbi," meddai Williams.

"Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth gan bawb yng Ngleision Caerdydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf - yn enwedig yr adran feddygol."