Achub dau berson wedi llifogydd yn sgil penllanw mawr
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid achub dau berson o ganolfan wyliau yn Sir Gaerfyrddin wedi i lanw uchel iawn achosi llifogydd arfordirol.
Cafodd tri chriw tân eu hanfon i Gydweli am 19:44 nos Fercher wedi i sawl penllanw mawr a thywydd tymhestlog amharu ar gabanau gwyliau.
Yn y cyfamser, cafodd eiddo yn Nhyndyrn yn Sir Fynwy eu taro gan lifogydd wedi i Afon Gwy orlifo'i glannau.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol wedi cyhoeddi nifer o rybuddion llifogydd a rhybuddion 'byddwch yn barod' ar draws Cymru.
Trenau wedi'u canslo
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod swyddogion tân wedi gorfod cerdded trwy chwe modfedd o ddŵr i achub y ddau unigolyn ac anifail anwes o'u caban ym Mharc Gwyliau Bae Caerfyrddin yng Nghydweli.
Cafodd amddiffynfeydd llifogydd eu codi yn Sain Silian yng Nghasnewydd nos Fercher mewn ymateb i ofnau o lifogydd o ganlyniad i benllanw Afon Wysg.
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, bydd bysiau'n cludo teithwyr trên rhwng Aberystwyth a Machynlleth am gyfnod ddydd Iau yn sgil llifogydd ar rannau o Lein Cambria.
Mae'r lein hefyd ar gau rhwng Tywyn a Harlech, ble mae yna hefyd drefniadau amgen ar gyfer teithwyr.
Mae disgwyl i'r sefyllfa amharu ar y gwasanaethau arferol tan 12:00 ddydd Iau.