Gwahardd athro o Fôn am feithrin perthynas â disgybl

  • Cyhoeddwyd
Richard Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Richard Edwards yn cyrraedd y gwrandawiad yn Wrecsam

Mae corff addysg wedi tynnu enw athro cerdd o Ynys Môn o'r gofrestr ar ôl dyfarnu ei fod wedi cymryd rhan mewn "gweithgaredd ryw anghyfreithlon" gyda chyn-ddisgybl oedd yn ieuengach na 16 oed ar y pryd.

Roedd Richard Edwards, 70, yn gwadu cyfres o gyhuddiadau'n ymwneud â meithrin perthynas amhriodol gyda dwy ferch ifanc.

Ond dyfarnodd pwyllgor Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) bod ymddygiad yr athro clarinét yn achos un o'r ddwy - Person B, oedd yn 15 oed - "â chymhelliad rhywiol" ac yn ymddygiad proffesiynol annerbyniol.

Bydd Mr Edwards yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr am gyfnod amhenodol, ond bydd hawl ganddo i ailymgeisio mewn 10 mlynedd.

Daeth y panel i'r casgliad hefyd fod Mr Edwards wedi ymddwyn yn amhroffesiynol mewn cysylltiad â honiadau o wneud ensyniadau amhriodol yn ystod gwersi cerdd ac annog disgyblion i yfed alcohol yn ystod tripiau cerdd.

Tynnu dillad a chusanu

Mae'r honiadau'n dyddio o gyfnod rhwng 1996 a 2001 pan roedd Mr Edwards yn athro gyda gwasanaeth cerdd i ysgolion yng Ngwynedd ac Ynys Môn ac yn rhoi gwersi preifat.

Clywodd y gwrandawiad bod Person B ar ei phen ei hun mewn ystafell gyda Mr Edwards gyda'r nos yn ystod trip cerdd i Gonwy yn 1997, pan roedd yn 15 oed.

Dywedodd wrth y panel bod y ddau wedi tynnu eu dillad a chusanu.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwrandawiad ei gynnal mewn gwesty yn Wrecsam

Roedd hefyd, meddai, wedi cyffwrdd yn ei bron a'i hannog hithau i'w gyffwrdd ef.

Honnodd hefyd fod Mr Edwards wedi dweud wrthi ei fod yn ei charu.

Clywodd y gwrandawiad fod y ddynes wedi rhoi datganiadau i'r heddlu yn 1999 a 2017 ynghylch ei honiadau.

'Dibrofiad a naïf'

Dywedodd yr ail achwynydd, Person A, wrth y panel ei bod yn fyfyrwraig 19 oed yn y brifysgol, a Mr Edwards yn 46 oed, pan ddechreuodd y ddau gael perthynas rywiol.

Roedd yn ei hannog i yfed alcohol, meddai, gan ychwanegu: "Roeddwn yn eithaf dibrofiad a naïf."

Dywedodd Person A ei bod ond wedi sylweddoli bod ymddygiad Mr Edwards tuag ati yn amhriodol wrth gael hyfforddiant diogelu wrth ei gwaith, a chysylltu â Heddlu Staffordshire yn 2017.

Dywedodd y panel bod camymddygiad yn ddifrifol oherwydd sawl ffactor:

  • Y ffaith bod achwynydd dan 16 oed;

  • Fod Mr Edwards wedi manteisio ar yr ymddiriedaeth ynddo a chuddio'i weithredoedd;

  • Methiant i werthfawrogi difrifoldeb y cyhuddiadau;

  • Diffyg edifeirwch;

  • Patrwm o gamymddygiad.

Mewn datganiad byr, dywedodd Mr Edwards bod dim hyfforddiant diogelu plant yn y 1990au, ac y byddai wedi elwa "yn aruthrol" petai wedi cael hyfforddiant o'r fath.

"Rwyf wedi cael gyrfa lwyddiannus, er dyw ddim yn teimlo felly wrth eistedd yma heddiw," meddai.

Ychwanegodd nad yw wedi gallu gweithio am ddwy flynedd, a bod diffyg incwm yn golygu nad oedd yn gallu fforddio cymorth cyfreithiol - rhywbeth ddywedodd oedd yn "anodd deall".

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn: "Ni allwn wneud sylw ar y mater hwn oherwydd natur sensitif yr achos.

"Fodd bynnag, mae gan y gwasanaeth bolisi diogelu cadarn mewn lle ac rydym yn darparu hyfforddiant blynyddol i staff a thiwtoriaid ar hyn.

"Mae hwn yn fater rydym yn cymryd o ddifri ac mae diogelwch ein disgyblion yn holl bwysig i ni."