Cyngerdd llifogydd Storm Dennis yn casglu £11,000

  • Cyhoeddwyd
Elin Fflur
Disgrifiad o’r llun,

Elin Fflur oedd un o'r artistiaid fu'n perfformio yn y Ffatri

Cafodd dros £11,000 ei godi mewn cyngerdd elusennol yn y Rhondda nos Wener at gronfa i adfer Clwb y Bont ym Mhontypridd.

Difrodwyd y clwb Cymraeg ynghanol y dref yn sylweddol gan lifogydd adeg Storm Dennis fis Chwefror.

Roedd artistiaid yn cynnwys Elin Fflur, Huw Chiswell, Mei Gwynedd, Dyfrig Evans, Catsgam a Lloyd Macey yn perfformio yn y Ffatri yn y Porth.

"Ces i fy nghyffwrdd yn fawr gan y lluniau o'r llifogydd fel cymaint o bobl," meddai'r trefnydd Emyr Afan, o gwmni Avanti.

"Achos o'n i arfer gigio fel Cymro ifanc yng Nghlwb y Bont, roedd rhaid i fi wneud rhywbeth. O'n i yn Llundain ar y pryd ac o'n i'n meddwl allai ddim dod nôl i helpu.

"Ond mae gen i ffôn, a rhifau ffôn yr artistiaid dwi wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd, ac roedden nhw i gyd wedi dweud 'ie' i gymryd rhan."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Yr afon Taf wedi gorlifo ym Mhontypridd wedi glaw Storm Dennis fis Chwefror

Llifodd troedfeddi o ddŵr i adeilad Clwb y Bont ar nos Sadwrn, 15 Chwefror, ac mae pwyllgor y clwb yn amcangyfrif y bydd angen rhwng £30,000 a £40,000 i'w adfer yn llawn.

Mae apêl ar-lein, gafodd ei sefydlu yn y dyddiau yn dilyn y llifogydd, wedi codi dros £10,000.

Bydd dau gyngerdd arall yn y Ffatri i godi arian at gymunedau gafodd eu heffeithio gan lifogydd storm Dennis, gydag artistiaid fel James Dean Bradfield, Mike Peters a Charlotte Church yn perfformio nos Sadwrn, ac artistiaid lleol brynhawn Sul.