Datblygu sgiliau arweinwyr ifanc mewn cymunedau
- Cyhoeddwyd
Yng nghanol y pryder a'r ansicrwydd sy'n wynebu pawb ar hyn o bryd, mae rhai straeon i godi calon am gymunedau'n dod ynghyd i gefnogi ei gilydd.
Un cynllun sydd wedi bod yn annog cymunedau ar draws Cymru i ddatblygu sgiliau eu harweinwyr ifanc ydy Llechi, Glo a Chefn Gwlad.
O'r ardaloedd llechi a glo i galon cefn gwlad, mae'r cynllun yn gweithio gyda naw o brosiectau cymunedol a gwirfoddol, gan gynnwys yr ardaloedd yma:
Cyn-ardaloedd glo fel Cwm Dulais, Cwm Cynon a'r Rhondda;
Dyffrynnoedd llechi fel Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Blaenau Ffestiniog;
Ardaloedd cefn gwlad fel Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Phowys.
Ym Methesda mae Partneriaeth Ogwen yn gweithio'n galed i adfywio'r Stryd Fawr - yn cynnal nifer o'r adeiladau yno ac yn cefnogi busnesau lleol a mentrau cymdeithasol.
Yn ôl Meleri Davies, prif swyddog y bartneriaeth, mae'r pwyslais ar annog y gymuned i wneud y penderfyniadau.
"Dan ni'n trio datblygu prosiectau sy'n dod â budd cymunedol, amgylcheddol ac economaidd i'r ardal," meddai.
"Dan ni hefyd wedi datblygu prosiectau arloesol fel Ynni Ogwen, cynllun hydro cymunedol ac wedi datblygu Siop Ogwen.
"Mae prosiect Llechi, Glo a Chefn Gwlad yn rhoi cyfle i ni weithio efo mentrau cymdeithasol ar draws Cymru a chyfle i gyflogi prentisiaid - un bob blwyddyn am dair blynedd.
"Pobl leol sy'n gallu gweithio yn eu hardal a chael eu datblygu fel arweinwyr cymunedol."
Ers blwyddyn bellach, mae Fflur Wyn wedi bod yn brentis cymunedol efo Partneriaeth Ogwen.
"Dwi 'di bod yn trio cynnal digwyddiadau cymunedol ym Methesda - er enghraifft, nes i fynd â stondin o Siop Ogwen i Ysgol Llanllechid er mwyn hybu llyfrau Cymraeg a hybu'r cysylltiad rhwng pobl Bethesda a'r siop.
"Mae 'na lot o bethau ar y gweill," meddai, "ond maen nhw ar stop ar y funud oherwydd Covid-19.
"Mae'n rhoi cyfle i bobl ifanc fel fi i ddatblygu i fod yn arweinwyr, rhoi sgiliau newydd a dod ar draws prosiectau gwahanol.
"Dwi'n gobeithio fydda i'n gallu dal i weithio ym Methesda a rhoi rhywbeth 'nôl i'r gymuned."
Yn ôl Meleri Davies, mae'r prosiect yn golygu bod pobl iau yn gallu cymryd rôl fwy blaenllaw yn gymunedol.
"Mae nifer fawr o'r pwyllgorau 'dan ni'n ymwneud â nhw, mae'r oed cyfartaledd yn hŷn - felly mae gallu creu byddin newydd o arweinwyr cymunedol yn eithriadol o bwysig."
Un arall sy'n rhan o gynllun Llechi, Glo a Chefn Gwlad ydy prosiect ffermio Tir Dewi, sy'n helpu amaethwyr sy'n wynebu anawsterau.
Meddai Gareth Davies o'r cynllun: "Rhan Tir Dewi yn y prosiect ydy edrych ar yr angen a'r cyfle i gefnogi ffermwyr ar draws Powys.
"Mae gallu cysylltu gyda sefydliadau eraill yn rhoi cyfle go iawn i gydweithio er mwyn darparu pecyn cefnogaeth ehangach, tynnu mwy o sylw at ein gwasanaethau a, thrwy ymdrech unigolion ac ar y cyd, greu grwpiau lleol gweithredol, sy'n poeni go iawn am eu cymunedau.
Uchelgais mawr
"Un nod ydy bod pob un o'r arweinwyr yn datblygu sgiliau cryfach ym maes gweithgareddau cymunedol fydd yn eu helpu i fod yn arweinwyr defnyddiol yn eu cymunedau yn y dyfodol.
"Rydw i'n gobeithio bydd y prosiect Llechi, Glo a Chefn Gwlad yn cael effaith sylweddol ar gymunedau ac y bydd y cymunedau hynny mewn gwell lle i helpu'u hunain.
"Mae'n uchelgais mawr, ond mae'n rhaid trio."
Wrth annog a dysgu pobl ifanc i arwain y ffordd, y nod ydy sicrhau dyfodol hyderus i'n hardaloedd lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2016