Y Gymraes blannodd dros 2,000 o goed heb i neb sylwi
- Cyhoeddwyd
Am 20 mlynedd bu Cymraes yn torri coed pin ar dir cwmni coedwigaeth a phlannu rhai cynhenid yn eu lle - heb i neb wybod. Wrth i achos llys yn ei herbyn ddod i ben, mae hi'n dweud bod ganddi ddyletswydd i achub ecosystemau sy'n diflannu.
Roedd Sioned Jones yn arfer mwynhau cerdded o gwmpas y dyffrynnoedd a'r bryniau ger ei chartref yn Iwerddon.
Roedd hi'n adnabod y byd natur yn dda ac yn hoffi chwilota am blanhigion gellid eu bwyta. Ond yn 1995 fe ddechreuodd ei chynefin newid ar ôl i gwmni coedwigaeth brynu darnau anferth o dir i blannu coed pin.
"Fyddwn i'n arfer cerdded ardaloedd hyfryd oedd yn llawn blodau gwyllt, gloÿnnod byw a gwyfynod, madfallod a llyffantod," meddai o'i chartref yn ardal Bantry, ger Corc.
"Ond roeddwn i'n gweld mwy a mwy o goed sbriws yn cael eu plannu, ac yn gweld beth oedd yn digwydd. Roedd y coed yn tyfu yn dal iawn a'r canghennau yn tyfu tuag allan, ac yn plethu i'w gilydd.
"Roedd y goedwig wedyn yn dywyll heb unrhyw olau yn mynd drwy'r canghennau felly roedd popeth oddi tanodd yn marw, a'r holl bryfaid, planhigion a byd natur yn mynd."
Penderfynodd Sioned wneud rhywbeth am y peth. Fe ddechreuodd gynllun dirgel wnaeth barhau am 20 mlynedd.
Pan oedd coed newydd yn cael eu plannu roedd hi'n eu tynnu allan gyda'i dwylo a phlannu rhai cynhenid yn eu lle. Wrth i'r goedwig aeddfedu fe ddechreuodd eu torri gyda lli llaw, cyn symud ymlaen i beiriant mwy pwerus.
Meddai Sioned, gafodd ei magu yn Llansantffraid a de Lloegr, cyn symud yn ôl i Gymru am gyfnod ac yna setlo yn Iwerddon yn 1987: "Yn y diwedd roedd rhai o'r coed wedi tyfu yn rhy fawr felly wnes i ddechrau defnyddio lli cadwyn - ac alla i ddim bod yn ddirgel efo lli cadwyn."
Cafodd ei dal yn 2011 a'i rhybuddio i stopio, ond dechreuodd eto o fewn dim.
"Bob awr neu ddwy oedd gen i yn sbâr, bob nos cyn iddi nosi, fyddwn i yn ôl yno yn torri."
Yn ddiweddar cafodd ei dal eto a'r tro yma ei herlid yn y llys. Mae hi'n amcangyfrif ei bod wedi plannu ymhell dros 2,000 o goed cynhenid mewn dwy goedwig.
Ddiwedd Chwefror eleni, cafodd ei chanfod yn euog o ddwyn coed gwerth €500, ond tydi hi ddim yn edifar.
Mae'r grŵp protest Extinction Rebellion yn Iwerddon wedi defnyddio ei hachos i godi ymwybyddiaeth o sut mae coedydd pin yn gallu newid ecosystemau.
Dywed Coillte, cwmni'r wladwriaeth sydd berchen ar y coedwigoedd, eu bod yn cadw 90,000 hectar o dir i goed cynhenid.
Yn dilyn y sylw yn y wasg i'w hachos, mae Sioned Jones nawr yn gobeithio cyd-weithio gyda'r cwmni er mwyn rheoli un o'u coedlannau - y rhai mae hi wedi eu plannu.
"Dim ond tua 20 acer fyddwn i angen, fyddai hynny'n fy nghadw i fynd am weddill fy mywyd.
"Mae coed sbriws yn tyfu'n gyflym ac mae'r cwmnïau yn cael grantiau i greu planhigfeydd enfawr - felly maen nhw'n gwneud synnwyr yn economaidd. Ond mae mwy i fywyd nag arian.
"Mae'n ddyletswydd arna i amddiffyn bioamrywiaeth a natur - mae'n gyfrifoldeb arnom ni."
Hefyd o ddiddordeb: