Coronafeirws: Galw am gau meysydd carafanau
- Cyhoeddwyd
![Parc Gwyliau Dolgamedd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11EA1/production/_111377337_2a33081c-624d-4d68-ba4b-a02072206318.jpg)
Mae Parc Gwyliau Dolgamedd eisoes wedi cau
Cynyddu mae'r galwadau ar feysydd carafanau i gau wrth i'r pryder ddwysáu yn ne Gwynedd yn sgil achosion coronafeirws.
Mae yna bryder fod llawer o ymwelwyr o du allan i'r ardal yn teithio i hunan ynysu yn eu carafanau yn ardal Tywyn ym Meirionnydd mewn ymgais i geisio osgoi'r feirws.
Mae pryderon tebyg wedi codi yn Llŷn ac Eifionydd wedi i feddyg teulu lleol rybuddio fod gwasanaethau iechyd cefn gwlad dan bwysau o achos perchnogion ail gartrefi sydd yn dewis hunan ynysu yn yr ardal.
Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, fod yna ganllawiau clir i bobl beidio teithio yn ddiangen.
"Dyw mynd i'ch carafán ar y penwythnos ddim yn fy nharo i fel teithio angenrheidiol.
"Rydym yn gofyn i bobl fod yn gyfrifol.
"Rydym yn cymryd hyn o ddifri ac os oes angen gweithredu rydym yn barod i ddefnyddio ein pwerau...."
Yn y cyfamser, mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi ysgrifennu llythyr at y prif weinidog Mark Drakeford yn galw am weithredu ar unwaith.
"Rwy'n gofyn i chi nawr gymryd camau ar frys er mwyn osgoi pwysau ychwanegol diangen ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn yr amser anodd hwn," meddai yn ei lythyr.
![Maldwyn Davies, Tywyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16CC1/production/_111377339_03bbd092-b6f7-4c57-9e63-835999df8a67.jpg)
Maldwyn Davies: "Mae 'na bosibilrwydd y byddan nhw'n dod â'r feirws efo nhw"
Un o'r bobl sy'n poeni am y sefyllfa ym Meirionydd yw Maldwyn Davies, sy'n byw yn Nhywyn.
Dywedodd: "Y prif bryder yw bod pobl yn dod o ganolbarth Lloegr i aros yn eu carafanau - ac o'r herwydd mae 'na bosibilrwydd y byddan nhw'n dod â'r feirws efo nhw."
Ychwanegodd: "Ro'n ni'n clywed bod rhywun yn siarad gyda theulu yng nghanolbarth Lloegr ac yn eu hannog i ddod yma - mae hynna'n golygu hefyd y bydd llai o stwff ar ôl ar y silffoedd.
"Yr awgrym yw y dylid cau y meysydd carafanau fel na fedr y bobl yma dyrru lawr yma."
'Clec ariannol ond bywydau'n bwysicach na phres'
![Bethan Gwanas ym Mharc Gwyliayu Dolgamedd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3829/production/_111377341_5893b6fc-a7a1-47a6-9697-ca267694b590.jpg)
Mae'n rhaid gweithredu'n foesol i osgoi straen ar y gwasanaeth iechyd, medd Bethan Gwanas
Un maes carafanau sydd wedi cau yw maes carafanau Dolgamedd yn ymyl Dolgellau, sy'n cael ei redeg gan Bethan Gwanas a'i theulu.
Dywedodd: "Rhaid i ni fod yn foesol - mae meysydd carafanau eraill wedi cymryd y cam ac ro'dd yn rhaid i ninnau hefyd.
"Ma'n gwneud synnwyr os 'dan ni fod i osgoi teithio yn ddiangen. Roedden ni'n gallu dweud wrth ein cwsmeriaid i beidio dod - fydd ein hawdurdod iechyd ni ddim yn gallu delio gyda channoedd o bobl yn sâl ar hyd lle.
"Mae'n mynd i fod yn glec ariannol ond mae bywydau yn bwysicach na phres."
![Bae Barafundle](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/C3E7/production/_102615105_baebarafundle.jpg)
Bae Barafundle - un o draethau mwyaf poblogaidd Sir Benfro
Mae anfodlonrwydd tebyg wedi ei fynegi yn Sir Benfro, yn sgil pryderon am hysbysebu eiddo ar gyfer ymwelwyr gan annog pobl i ystyried mynd yno i hunan ynysu.
Ar Twitter nos Wener, dywedodd AS Preseli Penfro, Stephen Crabb: "Rwyf wedi treulio 15 mlynedd yn annog pobl i ddod i'r ryfeddol Sir Benfro ar wyliau.
"Byddai'n parhau i wneud hynny pan rydyn ni wedi dod trwy hyn.
"Ond nawr mae angen i bobl osgoi teithio os yn bosib. Mae'r bwrdd iechyd lleol yn bryderus iawn ynghylch pwysau ychwanegol ar wasanaethau."
Ddydd Sadwrn galwodd arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn ar dwristiaid ac ymwelwyr i gadw draw o'r ynys "hyd nes bod yr argyfwng coronafeirws drosodd."
Yn ôl y cynghorydd Llinos Medi, dylai pobl ddim teithio i'r ynys "yn ystod amser mor gythryblus, does dim dewis heblaw annog ymwelwyr a thwristiaid, gan gynnwys y rhai sy'n berchen ar ail gartrefi, i gadw draw o'r Ynys - a hynny ar unwaith.
"Mae'n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan, ac i beidio teithio oni bai ei fod yn hanfodol, er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng cenedlaethol yma."
Apeliodd hefyd ar y diwydiant twristiaeth i helpu i leihau cyswllt cymdeithasol a galwodd ar barciau carafanau a busnesau gwely a brecwast i gau er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y clefyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2020