Deddf i gefnogi tenantiaid trwy argyfwng Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Allwedd

Bydd tenantiaid preifat yng Nghymru'n cael eu gwarchod rhag cael eu gyrru o'u cartrefi dan ddeddfwriaeth frys sy'n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i'r argyfwng coronafeirws.

Nod y ddeddfwriaeth fyddai gwarchod tenantiaid rhag cael eu gorfodi i symud cartref am dri mis, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cael cadarnhad y bydd hefyd yn berthnasol yng Nghymru.

Byddai'n rhoi mwy o sicrwydd i bobl sy'n rhentu cartrefi gyda'r gweinidog economi Ken Skates yn dweud fod yna ddisgwyl i landlordiaid weithredu'n "foesol" a chefnogi eu tenantiaid.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yna groeso i'r cam, ond fod angen gwneud mwy "i fynd i'r afael â'r mater sylfaenol o gyhoeddi rhybuddion meddiannu yn y lle cyntaf."

'Gwneud y peth cywir'

Ddydd Mawrth, cyhoeddodd y Canghellor, Rishi Sunak y byddai benthycwyr yn cynnig saib o dri mis i bobl sy'n cael trafferth gwneud taliadau morgais, ac roedd yna alw am yr un fath o gefnogaeth i denantiaid.

Ddydd Gwener, dywedodd Mr Skates ei fod yn disgwyl o'r herwydd i landlordiaid "wneud y peth cywir a gweithio gyda'u tenantiaid yn sgil gallu cynnig saib iddyn nhw hefyd".

Ychwanegodd: "Bydd tenantiaid ymhlith y bobl sy'n cael eu taro waethaf yn ystod y cyfnod hwn felly mae yna ddisgwyl yn foesol [i landlordiaid], yn fy marn i, i'w cefnogi, yn arbennig os ydyn nhw'n elwa o wyliau ad-dalu."

Ers hynny mae adran dai a llywodraeth leol Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y dylai'r pwerau newydd i warchod tenantiaid yn Lloegr am dri mis mewn cysylltiad â coronafeirws " fod yn berthnasol i Gymru".

Yn ôl yr Ysgrifennydd Tai, Robert Jenrick: "Fydd ddim un person sy'n rhentu, ac sydd wedi colli incwm oherwydd coronafeirws yn cael eu gorfodi o'u cartref, a fydd ddim un landlord yn wynebu dyledion amhosib eu rheoli.

"Mae'r cyfnod presennol yn eithriadol ac mae tenantiaid a landlordiaid yr un mor bryderus ynghylch talu'r rhent a'r morgais."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Tra'i fod yn briodol fod tenantiaid yng Nghymru yn elwa o'r mesur yma, mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael â'r mater sylfaenol o gyhoeddi rhybuddion meddiannu yn y lle cyntaf.

"Byddwn yn parhau i wneud popeth posib i gefnogi tenantiaid yng Nghymru".