Cyhuddo dyn o lofruddio ei wraig 67 oed yng Nghwmbrân

  • Cyhoeddwyd
Ruth WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ruth Williams yn yr ysbyty o'i hanafiadau

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i'w wraig gael ei chanfod yn anymwybodol mewn tŷ yng Nghwmbrân.

Fe gafodd Ruth Williams, 67, ei chanfod fore Sadwrn a'i chludo i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, lle bu farw o'i hanafiadau.

Fe wnaeth Anthony Williams, 69, ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd fore Llun wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth.

Cafodd Mr Williams ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.