Sut mae cadw mewn cysylltiad gyda Nain a Taid?

  • Cyhoeddwyd
Teuluoedd

I'r nifer o neiniau a theidiau, a mam-gus a thad-cus sydd fel arfer yn ddigon ffodus i gael cysylltiad agos gyda'u teulu estynedig a gweld eu plant ac wyrion yn rheolaidd, mae'r cyfyngiadau sydd arnon ni ar hyn o bryd yn gallu bod yn anodd.

Er mwyn goresgyn y sefyllfa o fethu bod gyda'i gilydd, i nifer mae defnyddio'r dechnoleg fwya' diweddar yn ffordd i gadw mewn cysylltiad.

Mae Cefin a Rhian Roberts wedi meistroli cyswllt fideo dros y we i gadw mewn cysylltiad gyda'u plant Tirion a Mirain a'r wyrion Efan a Noa. Yma mae Cefin yn ysgrifennu am y profiad o addasu wrth hunan-ynysu:

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Rhian a Cefin gyda'u hwyrion, Efan a Noa cyn y cyfnod o hunan-ynysu

Ar enedigaeth ein ŵyr cyntaf, Efan, y clywais y dywediad 'Nis gwirionir yn llwyr nes gweled yr ŵyr' am y tro cyntaf - gwir pob gair.

Mae Efan Jac a Noa Jac, plant fy mab Tirion, yn llenwi ein bywydau i'r ymylon ac ydan, mi rydan ni wedi gwirioni'n botsh.

Ers rhai blynyddoedd bellach mae'r syniad o deulu estynedig wedi graddol ffeindio'i ffordd yn ôl i fywyd bob dydd y rhan fwyaf ohonan ni, a Nain a Taid bellach yn chwarae rôl mwy hands on ym magwraeth plant ein plant ac o ganlyniad mae'r cwlwm rhwng y dair cenhedlaeth yn llawer tynnach.

Pan ddaeth y feirws, fe dorwyd y cwlwm hwnnw, mwy neu lai dros nos, a chafodd Nain a Taid ddim y cyfle i ddeud ta-ta yn iawn. Hynny oedd y siom fwya' - dim cyfle i drafod a chynllunio a'n rhoi ar ben ffordd gyda'r dechnoleg newydd.

Ffynhonnell y llun, Cefin Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Rhian yn sgwrsio gyda'i merch Mirain dros y we

Tydi Rhian a finna ddim yn arbenigwyr technolegol a dim ond yn raddol 'da ni'n dod i ddeall pethau fel Facetime a Zoom ond mi ydan ni ar WhatsApp yn gyson. Ond yr hyn 'da ni hefyd yn ei 'neud ydi gwylio hen fideos o'r hogia'n fabis, fideos nad ydan ni 'rioed wedi cael cyfle i'w gwylio o'r blaen ac yn cael modd i fyw!

Mae Efan a Noa bellach yn ddeg a chwech oed ac mae'n rhyfeddol gymaint mae rhywun yn anghofio mewn dim amser. Mae hyn wedi bod yn gyfle i 'neud y pethau na fydden ni, o bosib, byth wedi cael yr amser i'w gwneud fel arall.

Ond gan fod Rhian a finna'n beicio lot o Fangor i Dregarth a Rhiwlas (lle mae'r hogia'n byw), mi fyddwn ni'n eu gweld nhw'n yr ardd wrth inni basio ac yn codi llaw.

Efallai daw mwy o gyfyngu cyn bo hir ac na fyddwn ni'n gallu gwneud hyd yn oed hynny'n y man, a dyna pam mae Rhian, tra dwi'n sgwennu hwn, yn trio meistroli Zoom efo Mirain. Mae sŵn dathlu yn y gegin! Dwi'm yn ama'i bod wedi llwyddo. Esgus i ddathlu.

Cawn siarad hefo'r hogia yn munud!

Mae Betsan a Howard Evans, sy'n byw yn Sili ger Penarth, yn gyfarwydd â gweld eu hwyrion sawl gwaith yr wythnos. Ond yn dilyn llawdriniaeth Howard yn ddiweddar, a chanllawiau'r Llywodraeth i hunan-ynysu, mae'n golygu eu bod nhw'n gorfod aros yn eu cartref, sydd yn newid byd.

O fywyd cymdeithasol llawn, yn aelodau o gôr a grŵp dawnsio, a gofalu am yr wyrion, mae bywyd yn wahanol iawn.

Yma mae Hannah Holton, eu merch, yn esbonio sut, diolch i dechnoleg, mae modd i'w rhieni gadw'n bositif, mwynhau cymdeithasu dros y we a gosod ambell i her i'r plant:

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Hannah Holton, yr ail o'r chwith, gyda'r teulu, sy'n edrych ymlaen at gael bod gyda'i gilydd fel hyn eto

Mae Dad yn gyn-brifathro a Mam yn gyn-athrawes, y ddau wedi ymddeol erbyn nawr. Maen nhw'n bobl cymdeithasol iawn, yn aelodau o Gôr Godre'r Garth, yn dawnsio gwerin gyda Cwmni Dawns Werin Caerdydd ac yn aelodau o Gapel Bethel Penarth.

Ynghyd â'r canu a chymdeithasu, maen nhw'n hoff iawn o fynd ar wylie ac wedi teithio dros y byd.

Ond fis Mai y llynedd cafodd y teulu sioc mawr, pan wnaeth Dad ddarganfod bod ganddo diwmor ar yr ymennydd ac yn dilyn triniaeth llwyddiannus, bu'n rhaid iddo dderbyn radiotherapi a chemotherapi yn Ysbyty Felindre Caerdydd.

Hunan-ynysu yn parhau

Yn ystod y driniaeth roedd fy rhieni wedi rhoi saib ar eu cynlluniau teithio, ond roedd eu hwyrion, Daniel, Mia, Becca ac Elise yn eu cadw i fynd gyda sgyrsiau ar y ffôn trwy'r cyfnod.

Ddechre mis Chwefror clywodd Dad na fyse angen chemo arno am ychydig ac felly roedd yn edrych ymlaen i ailafael ar ei fywyd cymdeithasol a dechre trefnu gwyliau eto, ond yn anffodus oherwydd y coronafeirws, mae'n gorfod parhau gyda'r hunan-ynysu.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dyma sut mae'r teulu'n cyfathrebu ar hyn o bryd

Dyma lle mae apiau fel Skype yn handi. Yn foreol, mae'r plant i gyd yn dod ynghyd i gael sgwrs.

Mae Nain a Taid wrth eu bodd yn gwylio'r plant wrthi yn gwneud tasgau ac mae Taid yn gosod 'her y dydd' iddyn nhw. Ddoe bu'n rhaid creu cloc ac echddoe pili pala!

'Pawb yn elwa'

Mae'r teulu'n byw 20 munud wrth ein gilydd, felly dy'n ni ddim wedi gorfod dibynnu ar dechnoleg tan nawr, gan ein bod ni'n arfer cwrdd yn gyson i gael bwyd neu i fynd â'r plant i'r parc.

Gyda gweld ein gilydd ar y we yn y bore, mae pawb yn elwa. Mae'r rhai bach yn awyddus i ddangos eu prosiectau celf i Taid, ac mae Daniel yn dweud ei fod yn eu 'gweld nhw'n fwy nawr dros y we, nag oedd e'n arfer in real life'!

Ond maen nhw i gyd yn gweld eisiau mynd i dŷ Naini a rhoi cuddle i Taid.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Gyda Taid cyn y coronafeirws

Rhaid cyfaddef, mai'r sioc fwyaf i fi a Ruth ydy gweld bod ein rhieni wedi mynd ymlaen i ymuno gyda aelodau Côr Godre'r Garth i gael sesiwn canu a chwis ar nos Sul ar Zoom, ac mae cynlluniau gyda'r tîm dawnsio gwerin i drefnu rhywbeth tebyg hefyd.

Mae fy Mam wedi dod o hyd i sesiynau Yoga ar YouTube sy'n llenwi'r dydd, yn ogystal â rhaglenni teledu a phobi.

Maen nhw newydd gael cegin newydd yn y tŷ, a gan bod neb yn gallu mynd i'r tŷ i'w weld, rydyn ni wedi cael tour o'r gegin newydd dros Skype!

Ers iddyn nhw lawrlwytho'r apiau yma, mae Mam yn cyfadde fod hyn wedi agor byd newydd iddyn nhw. Mae'n angor iddyn nhw am fod hi wedi bod yn gyfnod ansicr iawn. Mae cael gweld y plant yn foreol wedi helpu iddyn nhw ddechrau'r diwrnod mewn ffordd bositif.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Hefyd o ddiddordeb: