Beiciwr modur wedi marw ar ôl taro yn erbyn bws yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwydd y gwrthdrawiad ar gyffordd rhwng Stryd James a Stryd Adelaide ym Mae Caerdydd
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio wedi i feiciwr modur farw ar ôl taro yn erbyn bws yng Nghaerdydd.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar gyffordd Stryd James ac Adeilade ym Mae Caerdydd ddydd Gwener am 18:30.
Bu farw'r dyn 34 oed o'r ardal yn y fan a'r lle "er gwaethaf ymdrechion y staff ambiwlans a'r ambiwlans awyr", medd yr heddlu.
Mae Heddlu'r De yn cefnogi teulu'r dyn ar hyn o bryd ac yn gofyn i unrhyw dystion i gysylltu â nhw.