Drakeford: Pwerau i stopio teithwyr yn 'ddigonol'

  • Cyhoeddwyd
mark drakeford

Mae Mark Drakeford wedi dweud fod pwerau'r heddlu i atal pobl rhag teithio'n ddiangen yng Nghymru yn "ddigonol" ar hyn o bryd.

Daw hynny er gwaethaf "rhai materion" wnaeth godi yng ngogledd a gorllewin Cymru dros y penwythnos gyda phobl yn teithio i ail dai.

Pwysleisiodd y prif weinidog nad oedd hynny'n cyfrif fel "teithio angenrheidiol" ac na ddylai pobl "fod yn manteisio ar y cyfle i wneud hynny".

Ychwanegodd ei fod yn awyddus i gael cyfarfod arall rhwng llywodraethau gwledydd y DU yr wythnos hon i drafod ymestyn cyfnod y cyfyngiadau presennol.

Cyfyngiadau i barhau

Ddydd Llun cafwyd cadarnhad o 302 achos newydd o coronafeirws yng Nghymru, a 27 o farwolaethau ychwanegol.

Mae'n golygu bod y cyfanswm swyddogol bellach yn 3,499 o achosion - er bod y gwir nifer yn debygol o fod llawer uwch - a 193 o farwolaethau.

Yn ei gynhadledd i'r wasg, dywedodd Mr Drakeford bod y dystiolaeth ar y cyfan wedi dangos bod "llai o bobl o gwmpas y lle yng Nghymru" dros y penwythnos er gwaetha'r tywydd braf.

Diolchodd i'r bobl hynny sydd wedi bod yn dilyn y rheolau, ond dywedodd fod materion wedi codi ymhlith lleiafrif.

Dywedodd fodd bynnag fod awdurdodau'r heddlu wedi dweud wrtho fod y grymoedd presennol yn "ddigonol i ymateb i'r digwyddiadau a welon nhw".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ffyrdd fel yr A55 yn llawer tawelach na'r arfer dros y penwythnos

Ers bron i bythefnos bellach mae cyfyngiadau wedi bod mewn grym i geisio atal ymlediad coronafeirws, gyda galwad ar bobl i aros yn eu tai.

Dim ond o dan amgylchiadau penodol y mae pobl yn cael gadael eu cartrefi, gan gynnwys i siopa am nwyddau hanfodol, ymarfer corff unwaith y dydd, i ddarparu gofal, neu i deithio i'r gwaith os yw hynny'n angenrheidiol.

Roedd y cyfyngiadau wedi cael eu rhoi mewn lle am dair wythnos i ddechrau, gan olygu eu bod nhw i fod i ddod i ben ddydd Mawrth nesaf.

Ond dywedodd Mr Drakeford y dylai llywodraethau'r DU gwrdd ac ystyried y dystiolaeth ar y mesurau, a'i fod yn credu y dylai'r cyfnod gael ei ymestyn.

"Byddai'n ffôl i daflu'r holl ymdrechion mae pobl wedi'i wneud i ffwrdd," meddai.

"Mae popeth dwi wedi'i weld hyd yn hyn yn awgrymu bod estyniad arall yn angenrheidiol."

Ychwanegodd Mr Drakeford fod y ddeddf newydd ar ymbellhau cymdeithasol yn y gweithle, sydd yn dod i rym yng Nghymru ddydd Mawrth, ddim yn "waharddiad absoliwt".

Dywedodd mai'r bwriad oedd sicrhau bod gweithfeydd yn cymryd "pob cam rhesymol" i sicrhau nad oes rhaid i weithwyr fod o fewn dau fetr i'w gilydd.