Rhybudd yn erbyn cynnal rêfs yn ystod pandemig Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am help y cyhoedd yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Penfro a Phowys i atal rêfs anghyfreithlon wrth i'r pandemig coronafeirws barhau.
Mae trigolion, ffermwyr a thirfeddianwyr yn cael eu hannog i roi gwybod i'r heddlu os ydyn nhw'n gweld unrhyw beth amheus.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jon Cummins o Heddlu Dyfed-Powys fod rêfs yn achosi pryder o fewn cymuned "ac yn anodd eu stopio, oherwydd niferoedd y bobl sydd yno" oni bai bod modd i'r awdurdodau ddelio â nhw yn gyflym.
Dywed y llu fod arwyddocâd arbennig eleni i neges flynyddol Ymgyrch Flamenco, yr ymgyrch sy'n ceisio atal partïon awyr agored anghyfreithlon mewn ardaloedd gwledig.
'Hollol anghyfrifol'
"Mae'n hollol glir fod yr hyn mae pob un ohonom yn ei wneud nawr yn cael effaith yfory, sef y rheswm pam fod rhaid i bawb aros adref," dywedodd.
"Byddai cynulliadau anghyfreithlon fel rêfs yn hollol anghyfrifol ac yn peryglu bywydau, heb amheuaeth.
"Rydym fel llu yn gweithredu cynted ag yr ydym wedi casglu gwybodaeth fod digwyddiad yn cael ei drefnu... a ble mae'n briodol byddwn yn erlyn y rhai sy'n gyfrifol er mwyn gwarchod ein cymunedau."
Bydd swyddogion ar ddyletswydd o gwmpas mannau ble byddai'n bosib cynnal rêf, ond mae'r llu'n "dibynnu ar gefnogaeth cymunedau" i roi gwybod os oes amheuaeth fod parti anghyfreithlon yn cael ei drefnu.
"Mae'r math yma o ddigwyddiadau anghyfreithlon yn cael eu cydlynu'n ofalus i osgoi dod i sylw'r heddlu a bydd trefnwyr wastad yn ceisio cael ffyrdd newydd i osgoi cael eu darganfod," meddai'r Uwch-arolygydd Cummins.
"Does dim adeg fwy pwysig wedi bod erioed i ni oll ofalu am ein gilydd, a hysbysu unrhyw beth sy'n ymddangos yn amheus - mae bywydau'n dibynnu ar hynny."
Beth yw'r arwyddion?
Nifer anarferol o gerbydau, yn arbennig faniau, cerbydau gwersylla a lorïau
Tresmaswyr yn ymchwilio i safleoedd addawol
Ymholiadau ynghylch llogi tir ar gyfer gweithgareddau eraill
Negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol all fod yn tynnu sylw at rêf yn yr ardal
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n cydweithio â Heddlu Dyfed-Powys, yn ategu'r apêl.
"Mae rêfs anghyfreithlon nid yn unig yn achosi gofid i bobl leol ond mae angen amser ac arian sylweddol i lanhau ar eu hôl," meddai un o'u rheolwyr rheoli tir, Phil Morgan.
"Yn sgil y sefyllfa bresennol sy'n wynebu ni oll wrth fynd i'r afael â Covid-19, fe allai'r rêfs hyn roi straen mawr ar wasanaethau brys sydd eisoes dan bwysau sylweddol.
"Yn ystod gorchymyn y llywodraeth i bobl aros adref, ddylai neb fod yn ystyried trefnu neu fynychu rêf anghyfreithlon, mewn gwirioned.
"Serch hynny, bydd mesurau arbennig mewn grym dros benwythnos y Pasg i sicrhau fod holl safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru'n ddiogel, a gwneud hi mor anodd â phosib i unrhyw un sydd am dorri'r gyfraith."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd25 Mai 2019
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd30 Mai 2018