Prif Weinidog y DU allan o'r uned gofal dwys
- Cyhoeddwyd
Dywedodd Downing Street fod prif weinidog y DU, Boris Johnson wedi gadael yr uned gofal dwys yn Ysbyty St Thomas yn Llundain.
Mae'n parhau yn yr ysbyty, ond bellach wedi dychwelyd i ward gyffredin.
Fe dreuliodd dair noson yn yr uned gofal dwys wedi i'w symptomau COVID-19 waethygu yn gynharach yn yr wythnos.
Dywedodd llefarydd ei fod "mewn hwyliau da iawn".
Ychwanegodd y bydd ei gyflwr yn "cael ei fonitro'n agos iawn" wrth iddo wella o'r cyflwr.
Mae'r Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab wedi bod yn dirprwyo dros Mr Johnson ers iddo fynd i'r ysbyty ddechrau'r wythnos.
Bydd yn parhau i wneud hynny.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020