Seiclwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Porthaethwy
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw seiclwr a fu farw wedi gwrthdrawiad â cherbyd ger Porthaethwy nos Wener.
Roedd Robert Holmes yn 36 oed ac yn byw yn lleol.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Pentraeth rhwng 20:45 a 21:00.
Dywedodd ei deulu mewn datganiad: "Mae ein calonnau ni oll wedi torri.
"Bydd yn cael ei golli'n aruthrol gan ei feibion, Aaron, Jack a Connor, ei holl deulu a'i ffrindiau."
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth neu luniau dash cam gan unrhyw un oedd yn yr ardal yn ystod y cyfnod dan sylw.
Dywedodd y Sarjant Emlyn Hughes o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu'r Gogledd: "Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Mr Holmes ar yr adeg anodd yma."