Gweithiwr canolfan ganser wedi marw â Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Donna CampbellFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Donna Campbell ei ei chanmol am ei "natur gynnes", oedd yn gysur i bobl ar adegau anodd

Mae gweithiwr iechyd mewn canolfan ganser yng Nghaerdydd wedi marw ar ôl cael coronafeirws, yn ôl Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

Bu farw Donna Campbell, oedd yn gweithio yn Ysbyty Felindre yn Yr Eglwys Newydd, yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y ddinas ddydd Gwener.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth bod eu staff yn "torri ein calonnau".

Ychwanegodd prif weithredwr yr ymddiriedolaeth, Steve Ham y byddai "wastad yn cael ei chofio" yn yr ysbyty.

"Rydyn ni wedi'n llorio o fod wedi colli aelod o'r teulu Felindre," meddai.

"Byddwn wastad yn ei chofio fel aelod ymroddedig, diflino o'n tîm nyrsio, oedd yn falch o weithio i'r GIG."

Mewn teyrnged gan yr ymddiriedolaeth cafodd Ms Campbell ei chanmol am ei "natur gynnes", oedd yn gysur i bobl ar adegau anodd.