'Meddylfryd Yr Eglwys yng Nghymru yn Seisnig o hyd'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Aled Jones Williams yn credu bod yr Eglwys yng Nghymru wedi colli cyfle

Ganrif union ers datgysylltu'r Eglwys mae un cyn-ficer yn dweud nad yw'r Eglwys yng Nghymru wedi manteisio ar ei hannibyniaeth ac "mai meddylfryd Prydeinig a Seisnig sydd ganddi".

Mewn sylwadau ar raglen Bwrw Golwg, Radio Cymru, dywedodd Aled Jones Williams bod yr eglwys wedi colli pob cyfle i fagu a meithrin anian ac ysbryd Cymreig.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru eu bod yn cefnogi bywyd yng Nghymru mewn ffordd real a sylweddol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Jones Williams yn gofyn: "A oes angen i eglwys yng Nghymru weddïo dros y Frenhiniaeth o hyd?"

Wrth gyflwyno ei sylwadau dywedodd Aled Jones Williams: "Yn fy ieuenctid yn eglwys Llanwnda ger Caernarfon, fy nhad yno'n berson, Cymraeg oedd iaith pethau, prydferthwch Y Llyfr Gweddi Gyffredin a Beibl William Morgan a glywyd.

"Ond rhith oedd hynny. Pan euthum i Goleg Mihangel yn Llandaf darganfyddais mai Eglwys Loegr oedd yma o hyd.

"A dyna fel y bu a hyd y gwelaf fel y mae. Yr oedd enghreifftiau o Gymreictod, enghreifftiau llachar iawn ambell un, ond enghreifftiau oeddynt.

"Ac enghreifftiau oeddynt nid oherwydd yr Eglwys ond er gwaethaf yr Eglwys."

'Angen gweddïo dros y Frenhiniaeth?'

Ychwanegodd: "Newid cot ddigwyddodd nid newid calon. Meddylfryd Prydeinig a Seisnig oedd a sydd ganddi.

"A oes angen i eglwys yng Nghymru weddïo dros y Frenhiniaeth o hyd? O! enghraifft bach ydy hwnna, dywedir. Yn yr enghreifftiau bach y dywedir y gwir.

"Efallai nad yw sefyllfa yr Eglwys yn wahanol i nifer o sefydliadau Prydeinig eraill yn y wlad. Ond rhoddwyd iddi gyfle i fagu a meithrin anian ac ysbryd Cymreig. Collodd y cyfle yn racs."

Tra yn dymuno'n dda i'r Eglwys ar ei chanfed pen blwydd, dywedodd Aled Jones Williams hefyd nad oes yn rhaid i'r Eglwys yng Nghymru fynd i Loegr i chwilio am esgobion - mae yna ddigon o rai abl yng Nghymru, meddai.

'Cefnogi mewn ffordd real'

Wrth ymateb i'w sylwadau dywedodd llefarydd ran yr Eglwys yng Nghymru eu bod yn "cefnogi ac yn cyfranogi ym mywyd ein gwlad mewn ffordd real a sylweddol mewn pob ffordd posib". 

"Yr ydym yn mynegi ein hunaniaeth ym mywyd eglwys y plwyf, ond hefyd yn mynegi ein hunaniaeth Anglicanaidd - hunaniaeth sydd wedi ei rhannu gyda'r teulu byd-eang," meddai.

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru

Wrth ymateb ar Bwrw Golwg dywedodd Enid Morgan, a oedd ymhlith y merched cyntaf i gael ei hordeinio gan Yr Eglwys yng Nghymru: "Roedd y sefydliad uwchben yn dal yn Seisnig iawn… ac eto mi ddaeth G O Williams yn esgob arni, a rhywsut fe lywiodd a newid ansawdd, a fuodd na res o esgobion a wnaeth eu gorau glas i newid y sefydliad fel y mae Cymru a chymdeithas wedi newid."

"Y bywyd Cymraeg lleol sydd yn bwysig ac wrth gwrs mae'r gymdeithas Gymreig wedi dirywio.

"Dwi'n tueddu i gytuno nad ydi mynnu esgobion o Loegr ddim yn help er bod gweld esgobion yn ferched yn lawenydd mawr."

Dywedodd Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytun - Eglwysi Ynghyd yng Nghymru: "Yr hyn sy'n ein gwneud yn genedl gyfoes ffres fyw ydi bod ni'n fwy nag un peth a'r hyn sy'n gwneud ni yn eglwys sydd yn cynrychioli'r genedl ydi bod ni yn adlewyrchu mwy na'r un peth hwnnw.

"Oni bai am eglwyswyr mawr Elisabethaidd, fyddai na ddim iaith Gymraeg heddiw."