Trefn profi Covid-19 'yn siambolaidd'

  • Cyhoeddwyd
Gweinidog

Mae ffrae wedi codi rhwng Llywodraeth Cymru ac un o gynghorau Cymru ynglŷn â'r niferoedd o bobl sy'n cael eu cyfeirio at ganolfannau ar gyfer profion Covid-19.

Dywedodd Vaughan Gething, gweinidog iechyd Cymru, fod canolfan brofi yn Stadiwm Dinas Caerdydd wedi cau ar ddydd Llun y Pasg oherwydd nad oedd digon o bobl yn cael eu cyfeirio yno.

Ond yn ôl arweinydd Cyngor Gwynedd mae'r drefn bresennol "yn siambolaidd".

Yn ystod cynhadledd y wasg dyddiol Llywodraeth Cymru dywedodd Mr Gething fod cau'r ganolfan yng Nghaerdydd yn "arwydd gweledol lle mae rhywbeth ddim wedi gweithio" a galwodd ar gynghorau i gyfeirio gweithwyr gofal cymdeithasol i'r canolfannau.

Ychwanegodd fod 12 allan o 22 awdurdod lleol Cymru wedi gwneud hyn yn barod.

Ond mewn ymateb dywedodd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, ei fod wedi synnu clywed y gweinidog iechyd yn dweud nad oedd rhai cynghorau wedi llenwi eu cwotâu ar gyfer profion.

"A ddylai o ddim gofyn i ni pam, yn hytrach na gwneud honiadau disail?," meddai.

Darparu enwau

Dywedodd Mr Siencyn fod awdurdodau lleol wedi bod yn galw am drefn prawf effeithiol ar gyfer pobl rheng flaen am dair wythnos.

Yn hytrach, dywedodd fod y system yn un "gymhleth, siambolaidd" ac yn orfiwrocrataidd.

Yn ystod y gynhadledd roedd Mr Gething wedi dweud fod "digon o le yn y system ar hyn o bryd i roi mwy o brofion i staff rheng flaen gofal cymdeithasol". 

"Rwy'n erfyn ar yr holl awdurdodau lleol i ddarparu enwau staff gofal cymdeithasol sydd angen prawf," meddai.

"Rwyf i yn poeni nad ydym ni bob tro yn defnyddio'r holl brofion sydd ar gael."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Y ganolfan brofi Covid-19 newydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Hefyd, yn ystod y gynhadledd newyddion fe wnaeth Mr Gething son am geisiadau o Loegr am gyfarpar diogelwch PPE yn gorlenwi'r farchnad archebion, wrth i gartrefi gofal yng Nghymru geisio sicrhau'r cyfarpar priodol i staff.

Dywedodd Mr Geithing fod y budd gorau i Gymru yn y cytundeb prynu sy'n bodoli ar draws y DU.

Er hynny, fe roddodd enghreifftiau o gyflenwyr cyfarpar PPE yn dweud wrth fusnesau yng Nghymru na fyddai nhw'n delio gyda chwmnïau o Gymru, a hynny mewn cyfarfod o weinidogion iechyd cenhedloedd y DU.

Yn y cyfarfod hwnnw fe ddywedodd ei fod wedi pwysleisio'r pwysigrwydd fod Cymru'n derbyn ei chyfran deg o gyfarpar yn ôl maint y boblogaeth, a'r posibilrwydd o ardaloedd gwahanol yn cefnogi ei gilydd os bydd prinder yn codi mewn un ardal arbennig, gyda digonedd mewn ardal arall.

Dywedodd Mr Gething fod y sefyllfa yn ganlyniad i newidiadau byd eang yn y farchnad sydd yn effeithio ar argaeledd a phris.Cais cyfarpar PPE o Loegr yn 'llenwi'r farchnad'

"Dyw'r rhwydweithiau cyflenwi arferol ddim yn bodoli yn yr un ffordd ag oedden nhw o'r blaen," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyfarpar diogelwch PPE

Yn ystod y cyfarfod, dywedodd Mr Gething fod y llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau fod y cyfarpar diogelwch priodol yn cyrraedd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig.

Daw ei sylwadau wedi i un swyddog undeb blaenllaw ddweud fod undebau wedi clywed "straeon arswydus" am brinder cyfarpar PPE i staff y GIG.

Mae TUC Cymru wedi arwyddo llythyr ar y cyd gyda BMA Cymru yn galw am well eglurder am y sefyllfa.

Dywedodd Mr Gething yn y cyfarfod fod dros 35m eitem PPE wedi ei ryddhau "yn ystod y misoedd diwethaf".

Roedd y rhwydweithiau cyflenwi arferol am gyfarpar PPE wedi "cwympo" ar draws y byd bellach, meddai.

Dywedodd fod 75 allan o 1,073 o gartrefi gofal yng Nghymru wedi gweld achosion positif o Covid-19, a bod 217 cartref gofal arall yn amau fod achosion yn bodoli yno hefyd.

Roedd 128 prawf am coronafeirws wedi cael eu cynnal mewn cartrefi gofal yn yr wythnos ddiwethaf, ychwanegodd.