Covid-19: Geraint Thomas yn wynebu her galed wrth godi arian

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Geraint Thomas y Tour de France yn 2018

Mae Geraint Thomas yn disgwyl y bydd y tridiau nesaf yn llawer caletaf na'r Tour de France wrth iddo dreulio 36 awr yn codi arian ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn ystod yr argyfwng presennol.

Bydd Thomas, enillodd Le Tour yn 2018, yn efelychu shifftiau gweithwyr y gwasanaeth iechyd gan dreulio tair sesiwn o 12 awr ar y turbo trainer, beic ymarfer i'w ddefnyddio dan do.

Bydd Thomas yn seiclo yn ei gartref yng Nghaerdydd dros gyfnod o dridiau, gan ddechrau ddydd Mercher.

Mae'r Cymro 33 mlwydd oed, sydd yn aelod o dîm Ineos, yn awyddus i ddangos ei werthfawrogiad at ymdrechion y gwasanaeth iechyd yn ystod y pandemig.

"Dwi'n meddwl y bydd yn galetach nag unrhyw un o gymalau Le Tour," meddai Thomas.

"Mae 36 awr yn agos at wyth neu naw gymal o Le Tour. Yn amlwg bydd hi'n arafach ond yn gorfforol bydd hi'n galed ac yn feddyliol yn galetach fyth.

"Ond dyna be ro' ni mo'yn, sialens."

"Mae'r gwasanaeth iechyd yn golygu gymaint i bawb," ychwanegodd Thomas.

"Ry' ni gyd yn adnabod rhywun sydd yn gweithio i'r gwasanaeth mewn un ffordd neu gilydd ac mae pawb yn deall yr ymrwymiad y mae nhw'n ei wneud."

Mae cysylltiadau Thomas gyda'r gwasanaeth iechyd yn rhai agos iawn gyda'i was priodas yn feddyg teulu a'i fam Hilary yn dychwelyd i weithio yng Nghanolfan Canser Felindre yn yr Eglwys Wen yng Nghaerdydd.

Mae seiclo proffesiynol wedi dod i stop am y tro, a chystadlu wedi dod i ben tan o leiaf 1 Mehefin.