Dynes wedi marw ar ôl tân mewn byngalo yn Abergele
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tân ar stryd Gorwel brynhawn Mawrth
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dweud bod dynes wedi marw yn dilyn tân mewn byngalo yn Abergele.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar stryd Gorwel yn y dref toc cyn 16:00 brynhawn Mawrth.
Fe gafodd y ddynes ei hachub o'r adeilad gan swyddogion yr heddlu, ond bu farw yn yr ysbyty'n ddiweddarach.
Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod yn cynnal ymchwiliad i achos y tân ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru.