Dim newid i ddyddiadau canlyniadau arholiadau 2020

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion yn cael canlyniadau arholiadauFfynhonnell y llun, PA Media

Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi cadarnhau na fydd unrhyw newid i'r dyddiadau y bydd myfyrwyr yn derbyn eu canlyniadau eleni er bod arholiadau'r haf wedi eu canslo yn sgil y pandemig coronafeirws.

Dywedodd Kirsty Williams fod myfyrwyr angen eglurder mewn cyfnod o ansicrwydd.

Ond fe fynegodd siom fod Adran Addysg Lloegr wedi achub y blaen trwy gadarnhau'r trefniant, yn hytrach na'u cyhoeddi ar y cyd â Chymru a Gogledd Iwerddon.

Bydd canlyniadau Safon Uwch ac AS yn cael eu cyhoeddi yn y tair gwlad ar 13 Awst a chanlyniadau TGAU ar 20 Awst.

Cysondeb

Dywedodd Ms Williams ei bod wedi amlinellu'r angen am sicrwydd a chysondeb mewn llythyr at Weinidog Addysg Lloegr ar 31 Mawrth, gan ddadlau fod angen osgoi creu mantais i rai myfyrwyr dros eraill wrth geisio am lefydd prifysgol.

"Roedd cynigion yn Lloegr am ddiwrnod canlyniadau lawer gynharach yn cyflwyno risg diangen," meddai. "Rwyf felly yn croesawu cyhoeddiad heddiw ar gyfer Lloegr."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kirsty Williams yn erbyn cyhoeddi canlyniadau ar ddiwrnodau gwahanol yn y tair gwlad

Dywedodd fod gweinidogion addysg pedair llywodraeth y DU "wedi cydweithio'n dda yn ystod y cyfnod heriol hwn" ond ei bod yn "gresynu nad oeddem yn gallu gwneud cyhoeddiad ar y cyd" ar yr achlysur yma.

Byddai cyhoeddiad ar y cyd, meddai, "wedi helpu rhoi sicrwydd angenrheidiol" i ddisgyblion, rhieni ac athrawon.

Ychwanegodd fod modd nawr i ddisgyblion gynllunio ar gyfer y dyfodol "gydag ychydig yn fwy o hyder, er rwy'n cydnabod fod cyfnod o ansicrwydd mawr yn parhau."

Dadansoddiad Gohebydd Addysg BBC Cymru, Bethan Lewis

Bydd myfyrwyr Safon Uwch a TGAU yn dal yn derbyn eu canlyniadau ar y dyddiadau gwreiddiol ym mis Awst, er i'w harholiadau gael eu canslo.

Bydd graddau yn cael eu dyfarnu trwy edrych ar asesiadau blaenorol, arholiadau ffug a barn athrawon ar y graddau roedd disgwyl i'r myfyrwyr eu cyflawni.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi ffafrio glynu wrth yr amserlen ganlyniadau wreiddiol ond roedd gweinidogion Lloegr wedi ystyried cyhoeddi canlyniadau cyn diwedd Gorffennaf.

Ar yr un pryd, roedd yna awgrym ei bod hi'n bwysig i gydlynu canlyniadau'r tair gwlad gyda chyrsiau Safon Uwch a TGAU.

Prin mae modd cuddio'r dicter yn natganiad Llywodraeth Cymru na arhosodd Gweinidog Addysg Lloegr i wneud datganiad ar y cyd.