Cytuno i gau llwybr ger Rhuthun i amddiffyn bachgen bregus

  • Cyhoeddwyd
GruffFfynhonnell y llun, Elliw Angharad
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflwr Gruff yn golygu bod yn rhaid iddo fod tu allan yn gwneud llawer o ymarfer corff, yn ôl ei fam

Mae teulu bachgen sydd â ffibrosis systig yn dweud bod eu bod yn "falch ofnadwy" bod Cyngor Sir Ddinbych wedi penderfynu cau llwybr troed ar eu fferm ar gyrion Rhuthun.

Roedd teulu Gruff, sy'n saith oed, wedi ceisio cau'r llwybr eu hunain er mwyn diogelu'r bachgen rhag haint Covid-19 - ond daeth swyddogion i dynnu eu harwyddion.

Yn dilyn cyfarfod ddydd Mawrth penderfynwyd y byddai'r llwybr yn cael ei gau, gyda'r cyngor yn dweud bod hynny "o fudd i bawb".

Dywedodd mam Gruff, Elliw Angharad, bod y penderfyniad yn "bwysau mawr oddi ar ein hysgwyddau".

'Angen mwy o ymarfer corff'

Mae cyflwr Gruff yn golygu bod yn rhaid iddo fod tu allan yn gwneud llawer o ymarfer corff, yn ôl ei fam.

"Mae o angen mwy o ymarfer corff na'r rhan fwyaf o oedolion neu blant eraill, achos dyna ydy'r cyflwr - mae'n rhaid iddo fo agor ei ysgyfaint a chael gwared â'r mucus sy'n cau ei ysgyfaint," meddai Ms Angharad.

Ffynhonnell y llun, Elliw Angharad
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd arwyddion y teulu i gadw draw eu tynnu gan Gyngor Sir Ddinbych

Rai wythnosau yn ôl fe wnaeth llystad Gruff, Eilir Jones, osod arwyddion i ddweud wrth bobl am beidio defnyddio'r llwybr sy'n dod at gyfyl eu cartref - ond cafodd y rheiny eu tynnu gan swyddogion Cyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd fod y llwybrau yn boblogaidd, gyda dros 200 yn ei ddefnyddio ar rai diwrnodau.

"'Dan ni ar y caeau yn wyna bob dydd," meddai. "'Dan ni yn defnyddio'r un giatiau â phawb arall.

"Ni, 'wyrach, fyddai'r bai am ddod â fo [Covid-19] yn ôl at Gruff."

Ffynhonnell y llun, Elliw Angharad
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llwybr cyhoeddus yn dod at dir y fferm ar gyrion Rhuthun

Yn dilyn cyfarfod ddydd Mawrth, cytunodd yr awdurdod lleol i newid eu safbwynt.

"Cytunwyd felly y bydd y ddau lwybr troed yn yr ardal ar gau tan fod y sefyllfa'n newid - ond bydd y mater yn cael ei adolygu'n gyson," meddai llefarydd.

"Mae'r cyngor ac NFU Cymru yn cydnabod bod y rhain yn llwybrau poblogaidd ac felly yn edifar y byddan nhw ar gau, ond, ar y cyfan, mae'r ddwy ochr yn teimlo mai dyma'r peth iawn i'w wneud mewn amgylchiadau allai wir fod yn unigryw."

"'Dan ni'n falch ofnadwy mai dyna'r penderfyniad maen nhw wedi ei wneud," meddai Ms Angharad.

"Mae o fel pwysau mawr wedi ei godi oddi ar ein hysgwyddau ni ein bod ni'n gallu diogelu'r mab a ni fel teulu - a hefyd diogelu pobl eraill sydd yn cerdded yn ôl a 'mlaen.

"Dwi ddim yn meddwl bod pobl yn sylweddoli sut mae'r haint yma'n gallu cael ei basio drwy gannoedd o wahanol ddwylo."