Canllawiau newydd ar grantiau ail gartrefi

  • Cyhoeddwyd
Aberdaron
Disgrifiad o’r llun,

Aberdaron: Mae gan Wynedd fwy o ail gartrefi nag unman arall yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru'r canllawiau ar roi grantiau i berchnogion ail gartrefi, yn dilyn pryder gan bump o gynghorau sir.

Roedd cynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Ceredigion a Sir Benfro wedi dadlau fod rhai pobl yn manteisio ar arian sydd i fod i helpu busnesau bach yn ystod argyfwng Covid-19.

Eu pryder oedd y gallai cynghorau - sy'n gyfrifol am ddosbarthu grantiau'r llywodraeth - dalu miliynau o bunnau i bobl sydd wedi dynodi ail gartref fel busnes er mwyn osgoi talu treth y cyngor.

Mae busnesau sy'n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Busnes wneud cais am grant o £10,000 fel rhan o fesurau cymorth y llywodraeth yn ystod y pandemig coronafeirws.

Hyd yma mae'r llywodraeth wedi talu 36,000 o'r grantiau hyn yn barod, gan gynrychioli cyfanswm o £456.6m.

Canllawiau newydd

Ond yn dilyn diweddaru'r canllawiau, er mwyn gallu bod yn gymwys ar gyfer y grant, rhaid i fusnesau allu bodloni tri maen prawf newydd. Y meini hyn yw:

  • Yr angen i gynhyrchu dwy flynedd o gyfrifon masnachu hyd at 31 Mawrth 2019

  • Rhaid i llety hunanarlwyo fod wedi ei osod am 140 diwrnod neu fwy yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20.

  • Rhaid bod y busnes llety hunanarlwyo yn brif ffynhonnell incwm y perchennog.

Dywedodd Cyngor Ynys Môn y bydd angen i swyddogion gael gwybodaeth bellach gan bob busnes sydd wedi cyflwyno cais am grant ar gyfer llety hunanarlwyo yn dilyn diweddaru'r canllawiau.

Mae tua 5,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd - y nifer uchaf yng Nghymru. Ac mae'r cyngor yno yn amcangyfrif bod rhwng 1,500 a 1,800 ohonyn nhw wedi'u cofrestru ar gyfer trethi busnes.

Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yng Ngwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: "Rydym yn falch bod y Gweinidog wedi gwrando arnom ac wedi newid y canllawiau busnes sydd ar gael i gefnogi busnesau bach gwledig Gwynedd a siroedd eraill yng Nghymru.

"Byddai wedi bod yn gwbl anfoesol bod unigolion sydd berchen ail gartrefi yn cael mynediad i'r pecyn cymorth ariannol yma o du'r Llywodraeth. Byddai'n mynd yn gwbl groes i ethos y cynllun, sef pecyn i sicrhau economi hyfyw mewn cyfnod aneconomaidd oherwydd yr haint yma sy'n lledaenu trwy'r wlad.

Ychwanegodd: "Yma yng Ngwynedd, byddai wedi golygu bod rhwng £15m a £18m o arian cyhoeddus yn cael ei ryddhau, a hynny, mewn cyfnod lle bydd pwysau ariannol dybryd ar arian trethdalwyr o ganlyniad i ddelio gyda Covid-19."