Pryder bod perchnogion ail gartrefi yn hawlio grantiau busnes

  • Cyhoeddwyd
Aberdaron
Disgrifiad o’r llun,

Aberdaron: Mae gan Wynedd fwy o ail gartrefi nag unman arall yng Nghymru

Mae pum cyngor sir yn galw am newidiadau i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar roi grantiau i berchnogion ail gartrefi.

Dywed cynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Ceredigion a Sir Benfro fod rhai pobl yn manteisio ar arian sydd i fod i helpu busnesau bach yn ystod argyfwng Covid-19.

Mae nhw'n poeni y gallai cynghorau - sy'n gyfrifol am ddosbarthu grantiau'r llywodraeth - dalu miliynau o bunnau i bobl sydd wedi dynodi ail gartref fel busnes er mwyn osgoi talu treth y cyngor.

Gall busnesau sy'n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Busnes wneud cais am grant o £10,000 fel rhan o fesurau cymorth y llywodraeth yn ystod y pandemig coronafeirws.

Dywed Llywodraeth Cymru y gallai cynghorau ofyn am fwy o dystiolaeth gan bobl sy'n gwneud ceisiadau.

Er bod eiddo sy'n llety hunan-ddarpar llawn amser yn aml yn cofrestru fel busnesau, mae rhai ail gartrefi hefyd wedi trosglwyddo o dalu treth y cyngor - sy'n cynnwys premiwm ail gartref - i dalu ardrethi busnes.

Ac ar ôl trosglwyddo, mae'n bosib mai dim ond ychydig o dreth mae'r perchnogion yn ei thalu, oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn cynnig gostyngiadau i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o lai na £12,000.

Ac os yw'r gwerth ardrethol yn llai na £6,000 nid yw'r perchnogion yn talu unrhyw dreth o gwbl.

Yng Nghymru, gall perchennog ail gartref osgoi talu Treth y Cyngor a chofrestru ar gyfer Trethi Busnes os yw'r eiddo ar gael i'w osod am 140 diwrnod y flwyddyn ac yn cael ei osod am 70 diwrnod.

'Ddim yn addas'

Mae tua 5,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd - y nifer uchaf yng Nghymru. Ac mae'r cyngor yn amcangyfrif bod rhwng 1,500 a 1,800 ohonyn nhw wedi'u cofrestru ar gyfer trethi busnes.

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig ap Siencyn: "Dwi ddim yn credu bod grant o'r math yma yn addas ar gyfer ail gartrefi - yn arbennig y rhai sydd wedi trosi i fod yn fusnesau er mwyn osgoi talu treth o gwbl.

"Dydy hi ddim yn anodd i ddadlau nad ydy hyn yn deg - mae'r arian yn dod allan o bwrs y wlad, o goffrau Llywodraeth Cymru, mae'n filiynau o bunnoedd ac fe ellid gwario yr arian yna ar bethau llawer iawn gwell yn yr amser difrifol yr ydym ni ynddo fo."

Yn Ynys Môn, mae 2,627 o ail gartrefi neu gartrefi gwyliau, ond mae faint sydd wedi trosglwyddo i dalu trethi busnes yn aneglur.

Mae 3,794 o ail gartrefi yn Sir Benfro - ac mae tua 830 wedi trosi o dalu treth y cyngor i drethi busnes.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ynys Môn ei fod "yn aros am ganllawiau gan Lywodraeth Cymru".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed arweinydd cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn fod y Gweinidog Tai yn "cydymdeimlo" â'i bryderon

Dywedodd y Cynghorydd Sam Rowlands, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: "Mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod ac yn cefnogi busnesau yn y sir.

"Rydym yn aros am ragor o arweiniad gan Lywodraeth Cymru i'n helpu ni i sicrhau bod y dystiolaeth briodol yn ei lle, er mwyn darparu ar gyfer busnesau llety gwyliau hunan arlwyo dilys ar yr adeg anodd yma."

Tra bod Cyngor Gwynedd yn dweud nad yw wedi prosesu unrhyw grantiau ar gyfer perchnogion ail gartrefi, mae Cyngor Powys yn y broses o ddosbarthu taliadau yn ôl gwybodaeth a roddwyd i'r Cynghorydd Elwyn Vaughan, sy'n cynrychioli ward yn Nyffryn Dyfi, ardal sy'n boblogaidd gyda pherchnogion ail gartrefi.

Sefyllfa 'hurt'

Dywedodd y Cynghorydd Vaughan: "Y sefyllfa fel dwi wedi cael ar ddeall gan yr adran gyllid ydy bod 100 o dai yn flynyddol yn trosglwyddo o fod yn dai i fod yn fusnesau er mwyn osgoi talu treth y cyngor - cyfanswm o tua 250 ym Mhowys.

"Am eu bod nhw wedi'u cofrestru fel busnes maen nhw'n gymwys wedyn ar gyfer grant o £10,000 yr un sy'n sefyllfa hurt a dweud y lleia', ond yn fwy na hynny dwi wedi cael cadarnhad gan Bowys eu bod nhw yn talu allan y grantiau yma, sydd yn anhygoel."

Dywedodd diprwy arweinydd Cyngor Powys, Aled Davies mai gwaith Llywodraeth Cymru oedd "penderfynu sut y dylai unrhyw fwlch yn y cynllun gael ei gau".

"Os oes unrhyw grantiau yn cael eu canfod i fod wedi cael eu talu ar gam neu drwy dwyll, gallwn ei hawlio yn ôl a byddwn yn gwneud hynny," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae grantiau cymorth busnes ar gael i fusnesau hunanarlwyo gan eu bod yn perthyn i un o'r sectorau yr effeithir arnynt fwyaf yn y tymor byr gan y pandemig a gan eu bod yn gwneud cyfraniad pwysig i'n heconomi dwristiaeth.

"Fodd bynnag, mae gan awdurdodau lleol hawl i benderfynu rhoi grant i fusnes penodol ai peidio. Gallent hefyd ofyn i berchnogion busnes ddarparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi eu cais.

"Codir treth cyngor ar ail gartrefi a gellir codi tâl ychwanegol o hyd at 100%. Awdurdodau lleol unigol sy'n penderfynu ar y tâl ychwanegol."