Cymraeg yn 'berffaith' ar gyfer ap lleoli What3Words

  • Cyhoeddwyd
w3wFfynhonnell y llun, What3Words

Mae ap sy'n gallu lleoli unrhyw un yn y byd gyda thri gair syml bellach wedi ei ddatblygu yn y Gymraeg.

Mae What3Words yn rhannu'r byd yn 57 triliwn o sgwariau tri metr y mae modd eu hadnabod gyda chyfuniad unigryw o dri gair.

Bydd yr ap Cymraeg yn ei gwneud yn "rhwydd ac yn sydyn" i ddarganfod lleoliad yng Nghymru neu dros y byd, yn ôl un o'r gwasanaethau brys sy'n ei ddefnyddio.

Dywedodd y cwmni bod "crynodeb ac ymarferoldeb" y Gymraeg yn ei gwneud yn berffaith ar gyfer yr ap.

Galwadau 999

Drwy ddefnyddio What3Words mae modd rhannu lleoliad yn sydyn heb orfod defnyddio cyfeirnodau, sy'n rhan o'r rheswm y caiff ei ddefnyddio gan wasanaethau brys, cwmnïau ac unigolion.

Mae'r cwmni yn dweud mai Cymru ydy'r wlad gyntaf lle mae'r holl wasanaethau brys yn defnyddio'r system wrth ateb galwadau 999.

Dywedodd Gillian Pleming o Wasanaeth Ambiwlans Cymru bod galwyr yn gallu defnyddio'r system i roi gwybod lle maen nhw yn gynt.

Hefyd mae modd i'r gwasanaeth anfon linc at rywun sy'n galw 999 er mwyn iddyn nhw ddarganfod eu lleoliad os ydynt ar goll.

Ffynhonnell y llun, What3Words

Ychwanegodd: "Oherwydd bod 'na lefydd anghysbell neu bobl yn dod ar eu gwyliau a ddim yn gwybod yn lle maen nhw, mae hwn yn mynd i fod yn 'neud andros o wahaniaeth 'sŵn i'n ddeud i'r galwyr, ac yn ei 'neud yn rhwydd ac yn sydyn."

Mae'r ap bellach ar gael mewn dros 40 o ieithoedd, gyda'r gwaith o ddatblygu i'r Gymraeg wedi ei gwblhau ar y cyd â'r Llyfrgell Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chanolfan Bedwyr Prifysgol Bangor.

Roedd hynny'n golygu dewis geiriau i'w cynnwys ar sail eu haddasrwydd, yn ôl Awel Lewis o Brifysgol Bangor, un o'r 45 o ymgynghorwyr oedd yn rhan o'r gwaith.

"Oeddan ni'n cael tasgau gwahanol yn y dechrau, er enghraifft gofyn i ni ddarparu 200 o eiriau… 'sa ni'n licio gweld ar ein map ni.

"Felly oeddan nhw'n cael 45 cyfres o 200 o eiriau, ac wedyn oedd rheiny'n dod nôl ata ni wedyn - geiriau pobl eraill - ar gyfer sgorio nhw ar gyfer addasrwydd.

Ffynhonnell y llun, What3Words

"Oeddan nhw'n cael cyfartaledd o ba mor addas fysa geiriau achos yn amlwg dydy'r geiriau lawr yn y de ddim yn mynd i gael eu siarad mor aml fyny fan hyn yn y gogledd."

Ychwanegodd: "'Da ni mor ddibynnol ar dechnoleg, yn enwedig fel mae pethau rŵan, felly mae'n bwysig ofnadwy bod y cwmnïau 'ma yn ystyried y Gymraeg wrth ddatblygu technoleg…"

"Mae hi mor braf gweld cwmni rhyngwladol fel hyn yn meddwl bod 'na alw ar gyfer gwasanaethau'n Gymraeg, felly dwi'n meddwl bod 'na ddyletswydd arna ni fel y Cymry i sicrhau bod y galw 'na yna drwy ddefnyddio'r ap yn y Gymraeg."

'Gweithio'n berffaith'

Mewn datganiad, dywedodd pennaeth datblygu ieithoedd What3Words bod "moderneiddio wedi bod yn rhan ganolog o barhad" yr iaith Gymraeg.

Ychwanegodd Jamie Brown: "Gydag alaw arbennig, ond yn gryno ac yn ymarferol, mae'r Gymraeg yn gweithio'n berffaith ar gyfer What3Words."