23 yn rhagor wedi marw yng Nghymru o haint coronafeirws
- Cyhoeddwyd

Mae 23 yn rhagor o bobl wedi marw o haint coronafeirws yng Nghymru gan ddod â'r cyfanswm i 774.
Ddydd Sadwrn dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 299 o achosion newydd a bod cyfanswm yr achosion positif bellach yn 8,900.
Mae y nifer gwirioneddol yn debygol o fod yn uwch gan nad yw llawer sydd â symptomau yn cael eu profi.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ar neges trydar nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi edrych eto ar y data ac wedi cael gwared â chofnod o 22 marwolaeth na chafodd brawf Covid-19 positif.
Mae 26,992 o bobl bellach wedi cael prawf.

Nifer y marwolaethau fesul bwrdd iechyd
Mae'r map uchod yn dangos y marwolaethau fesul bwrdd iechyd ond gan fod marwolaethau Bwrdd Iechyd Hywel Dda mor isel dyw'r rheiny ddim yn cael eu cofnodi fel nad oes modd adnabod unigolion.
Ar draws y byd mae bron i 200,000 wedi marw o haint coronafeirws ac mae nifer yr achosion wedi croesi 2.8m.

Mae un o brif swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud fod tystiolaeth yn dechrau awgrymu fod niferoedd yr achosion newydd o Covid-19 yn sefydlogi.
Dywed Dr Chris Williams y gall hyn fod yn arwydd o effeithlonrwydd y mesurau ymbellhau cymdeithasol caeth.
Er hynny, fe ychwanegodd ei bod yn rhy gynnar i fod yn bendant am hyn, a'i bod hefyd yn rhy gynnar i newid rheolau caeth yr ymbellhau cymdeithasol sy'n bodoli.
"Mae Novel Coronafeirws yn ymledu ymhob rhan o Gymru, a'r cam unigol pwysicaf y gallwn oll ei wneud wrth ymladd y feirws ydi aros adref", meddai.

Nifer yr achosion newydd hyd yma
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn pwysleisio nad yw ffigyrau y marwolaethau a gyhoeddir bob dydd yn fanwl gywir gan bod yna eraill yn marw yn y gymuned a dim ond rhai marwolaethau mewn cartrefi gofal a gofnodir.
Mae dros 20,000 o bobl ym Mhrydain wedi marw o haint coronafeirws bellach.

CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2020