Rhybudd wedi tân mynydd bwriadol ger Llangollen
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yn gofyn i bobl feddwl am ganlyniadau eu gweithredoedd wedi i griwiau orfod delio â thân mynydd bwriadol ger Llangollen yn ystod oriau mân fore Sul.
Cafodd criwiau o ardaloedd Llangollen, Johnstown a'r Waun eu galw i ddiffodd y tân yn Nhrefor am 04:20.
Dywedodd Tim Owen, un o reolwyr Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd, bod hi'n debygol bod y tân wedi cael ei gynnau yn fwriadol a bod y criwiau yn debygol o aros ar y safle am beth amser.
"Mae ymddygiad o'r fath," meddai, "yn gwbl annerbyniol ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau brys sydd o dan bwysau ar hyn o bryd.
"Mae tanau bwriadol yn rhoi straen ofnadwy ar adnoddau ac yn gallu cymryd amser i'w diffodd."
Mae'r gwasanaeth yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Thaclo'r Tacle ar 0800 555111 neu Heddlu'r Gogledd ar 101.