Agor cwest i farwolaeth ffermwr ger Rhuthun

  • Cyhoeddwyd
Llys Crwner RhuthunFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gwrandawian yn cael ei gynnal yn Llys Crwner Rhuthun

Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth ffermwr o Ruthun gafodd ei wasgu yn erbyn wal gan fwced cerbyd JCB ar ei fferm ar 21 Ebrill.

Dywedodd y crwner dros ddwyrain a chanolbarth gogledd Cymru, John Gittins, fod Dewi Owen Jones, oedd yn ffermio yn Llanfwrog, wedi ei wasgu rhwng y wal a'r fwced mewn corlan i fuwch oedd newydd roi genedigaeth i lo.

Llwyddodd i ddianc o'r gorlan cyn disgyn yn ddiymadferth ar y buarth.

Gwasanaethau brys

Cafodd ambiwlans awyr a pharafeddygon eu galw i'r fferm, ond roedd Mr Jones yn farw.

Dangosodd archwiliad post mortem fod Mr Jones wedi marw o achos gwaedlyn ar yr abdomen, yn dilyn rhwyg ar ei iau, wedi iddo ddioddef anaf trawma.Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi ei hysbysu am y farwolaeth.

Cafodd y cwest ei ohirio ond nid oes dyddiad wedi ei osod eto ar gyfer ei orffen oherwydd y sefyllfa bresennol gyda coronafeirws.